Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Part of QNR – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella lefelau sgiliau pobl ifanc. Rydym ni’n cefnogi pobl i chwilio am waith, gan wella cyfleoedd i ennyn diddordeb a chael swyddi, ynghyd â gwireddu potensial llawn o ran datblygu sgiliau ar gyfer economi Cymru. Rydym ni am sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer sgiliau yn cyfateb i’r cyfleoedd ar gyfer twf ymhob rhanbarth, gan gydweithio â phartneriaethau sgiliau rhanbarthol.