Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 5 Mehefin 2018.
Wel, o ran arloesi digidol, Julie James sydd â'r swyddogaeth honno yn amlwg. Mae hyn yn fwy na dim ond mater o ddatblygu economaidd, wrth gwrs. Mae pobl yn tueddu i weld arloesi fel bygythiad i swyddi. Nid oes rhaid iddo fod. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ddeall bod cyfleoedd ar gael o ran gweddnewid y ffordd, er enghraifft, y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio. Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cynulliad dros Lanelli wedi ei wneud yn eglur iawn ar nifer o achlysuron. Felly, nid yw'n fater o ddatblygu economaidd yn unig, er ei fod yn rhan bwysig o'r dyfodol, ond mae'n torri ar draws llawer iawn o feysydd Llywodraeth, a dyna pam, wrth gwrs, y mae angen i rywun â chyfrifoldeb traws-lywodraethol yn y maes hwnnw ymdrin ag ef.