Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 5 Mehefin 2018.
Prif Weinidog, mae sefydliadau trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol o ran cryfhau a mynd ati i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn ogystal â darparu cyswllt rhwng cyrff y sector cyhoeddus a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Er mwyn iddyn nhw lwyddo, maen nhw angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei strategaeth i wella cydlyniant cymunedol yn defnyddio ac yn cynorthwyo'r trydydd sector yng Nghymru, os gwelwch yn dda?