Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 5 Mehefin 2018.
Prif Weinidog, mae plismona yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau yn gydlynol ac yn mwynhau ansawdd bywyd da, ac mae ein heddluoedd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, iechyd, tai ac, yn wir, y sector gwirfoddol mewn partneriaeth agos, gan adlewyrchu'r ffaith bod y rhan fwyaf o waith yr heddlu yn ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig. O gofio hynny, a'r achos cryf iawn dros ddatganoli plismona sy'n dilyn ohono, pa waith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod problemau perthnasol yn cael eu rhagweld a'u harchwilio o ran datganoli plismona yn y dyfodol?