2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:45, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater o ddiogelwch trydanol a phobl hŷn yng Nghymru. Mewn digwyddiad Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dros chwe mis yn ôl, lansiodd yr unig elusen sy'n ymdrin â lleihau ac atal niwed, anafiadau a marwolaethau yn sgil trydan, Electrical Safety First, eu hadroddiad, 'Sut gallwn ni gadw pobl hŷn yng Nghymru yn ddiogel?' Mae mwy na hanner y tanau damweiniol yng Nghymru wedi'u hachosi gan drydan, a chanfu'r adroddiad fod pobl hŷn yn sylweddol fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o ddioddef tân trydan yn y cartref. Mae pobl hŷn yn cyfrif am dros draean o'r anafiadau yn sgil tân trydan, ac mae pobl dros 80 oed o leiaf pedair gwaith yn fwy tebygol na'r grwpiau oedran eraill o gael eu hanafu yn y tanau hyn. Disgwylir i nifer y bobl 80 oed neu hŷn ddyblu erbyn 2035, gyda rhyw 50,000 o bobl dros 65 oed yn byw â dementia. Mae mwyafrif y bobl hŷn yng Nghymru—rhyw 80 y cant—yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, a'r rhan fwyaf o'r rhain yn stoc tai hŷn nad ydyn nhw erioed wedi cael archwiliad tân diogelwch trydanol. Ar sail yr ymchwil, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, ac mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru am gynllun sy'n cyflawni archwiliadau diogelwch trydanol yn y cartref am ddim bob pum mlynedd i bobl dros 80 oed, ni waeth pa ddeiliadaeth eiddo sydd ganddynt. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw ddweud ers lansio eu hadroddiad nad ydynt wedi gweld unrhyw gynnydd arall gan Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r mater a sicrhau ei fod yn flaenoriaeth i leihau nifer y bobl hŷn y mae tanau trydanol yn effeithio arnynt yng Nghymru. O ystyried eu pryder sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad.