2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:54, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, o ran yr ail bwynt, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ei gwneud yn fwy na phlaen nad oes gennym unrhyw fwriad o gwbl i godi tâl am unrhyw driniaeth na gofal y bydd unrhyw geisiwr lloches yn ei dderbyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd wedi methu â chael caniatâd i aros. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru i GIG Cymru yn nodi hynny'n glir iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r polisi hwnnw am y rhesymau y mae Mike Hedges wedi'u nodi'n gryno iawn yno.

O ran Virgin Media, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn cyfarfod yn fuan iawn ag uwch reolwyr Virgin Media i drafod y cynlluniau i gau'r cwmni, y rhesymau dros y penderfyniad, a chynnig unrhyw gymorth y gallwn i helpu i wrthdroi'r penderfyniad os yn bosibl. Mae'r tasglu yn barod i gefnogi unrhyw aelodau staff yr effeithir arnynt os nad ydym yn gallu gwrthdroi'r penderfyniad hwnnw. Mae swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd yn ddiweddar â rheolwyr Virgin Media a chynrychiolwyr y cyflogwyr i asesu'r sefyllfa bresennol a chynnig cymorth os yw'n briodol. Rwyf ar ddeall y dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar y cyd ar 23 Mai ac y bydd yn para am o leiaf 45 diwrnod. Bydd gwrthgynnig gan gynrychiolwyr y gweithwyr â'r nod o gadw'r safle ar agor yn cael ei ystyried yn rhan o hyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i ochr y gweithwyr er mwyn helpu i lunio'r gwrthgynnig hwnnw.