4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:02, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Yn fy natganiad ar 1 Chwefror eleni, cadarnheais yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, o dan y trefniadau uwchraddio ac ymyrryd, y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i fod mewn mesurau arbennig. Mae'r wythnos hon yn nodi tair blynedd o fod mewn mesurau arbennig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Hoffwn roi'r diweddaraf i'r Aelodau heddiw ar y cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd allweddol yn ystod y cyfnod hwn, yr heriau sylweddol sy'n parhau a'r cynlluniau i weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod nesaf o welliannau.

O dan y trefniadau mesurau arbennig, rydym ni wedi rhoi cymorth i sefydlogi ac adfer y sefyllfa mewn meysydd allweddol o bryder. Mae hyn wedi cynnwys meysydd a amlinellir ar gyfer gweithredu ar unwaith yn 2015—ar lywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ac ailgysylltu â'r cyhoedd a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau. Yn fwy diweddar, gorfodwyd camau yn y maes cyllid ac mewn rhai meysydd perfformiad.

Mae'r cymorth hwn wedi cynnwys craffu a goruchwylio mwy manwl, penodi cynghorwyr allweddol i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd ar arweinyddiaeth a llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl a gofal sylfaenol, gydag uned gyflawni GIG Cymru yn rhoi cymorth penodol. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, darparwyd £10 miliwn o arian ychwanegol i gefnogi camau gweithredu mewn meysydd allweddol, gan gynnwys iechyd meddwl a gwasanaethau mamolaeth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae buddsoddi i leihau amseroedd aros wedi cynnwys ymrwymiad o £1.5 miliwn tuag at y rhaglen gofal heb ei drefnu, a dros £10 miliwn o gymorth ychwanegol mewn gofal wedi'i gynllunio sydd wedi helpu i arwain at ostyngiad o 45 y cant yn y bobl sy'n aros dros 36 wythnos, o'i gymharu â diwedd mis Rhagfyr 2017.  

Tystiodd adroddiadau diweddaru gan y bwrdd iechyd a Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i gynnydd o ran y cerrig milltir a rhywfaint o dystiolaeth o adferiad. Soniodd adroddiad diweddar gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan hefyd am beth o'r cynnydd diweddar, gan gynnwys meysydd gwaith allweddol y manylir arnynt yn y strategaeth dementia ac o ran cymorth i gleifion a gofalwyr.

Un o'r rhesymau pwysig y gosodwyd bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig yn 2015 oedd oherwydd pryderon mawr gyda gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Oherwydd gwaith caled y staff a'r cymorth a ddarparwyd, mae hwn yn faes gwasanaeth ble'r ydym ni wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn dilyn cyngor yn yr adolygiad, o dan y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd, cyhoeddais yn gynharach eleni y cafodd hyn ei isgyfeirio o fod yn fater mesurau arbennig.

Gwnaed cynnydd hefyd mewn meysydd eraill, gan gynnwys rheoli cwynion a phryderon, gyda gwell goruchwyliaeth glinigol o dan arweiniad y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio; wrth ddatblygu a chyflwyno strategaeth iechyd meddwl drwy gydweithio â defnyddwyr a phartneriaid; gwell perfformiad o ran cyflawni targedau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010; ailstrwythuro'r tîm iechyd meddwl; a phrosesau llywodraethu'r bwrdd.