4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:50, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

I ddweud y gwir rwy'n gwrthod yn llwyr yr honiad bod y Llywodraeth hon yn esgeuluso pobl sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig. Rwy'n credu bod proses graffu gwbl briodol i'w gynnal gyda chwestiynau i'w gofyn am yr heriau sy'n bodoli ar gyfer eich etholwyr, ac eraill, ond dydw i ddim yn credu bod y math hwnnw o ddatganiad sarhaus yn helpu neb, a dydw i ddim yn credu ei fod yn helpu gosod achos rhesymol am y gwelliant sydd yn dal yn ofynnol.

Y rheswm pam nad oedd orthopedeg wedi'i gynnwys yn y targed o 36 wythnos ar gyfer gwella yw y gwyddom ni na fyddent yn syml yn gallu ei gyflawni o fewn yr amserlen a gynigiwyd. Gwyddom na ellir cyflawni'r cyfraddau amseroedd aros y mae angen eu datrys yn y modd hwnnw, ac nid wyf eisiau cael targed gwella sy'n amlwg yn anghyraeddadwy. Nid yw hynny'n golygu na ddylai'r bwrdd iechyd wella. Nid yw hynny'n golygu nad oes diffyg pwyslais ar y mater neu ddiffyg ymwybyddiaeth, ac mae'n sicr yn fater rwyf wedi sôn amdano yn uniongyrchol wrth y cadeirydd a'r prif weithredwr. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn disgwyl gweld cynnydd yn ei gylch, ac mae'n rhan o fy rhwystredigaeth yr wyf wedi ei fynegi o'r blaen, er gwaethaf yr heriau clir ac amlwg a nodwyd, nad oes gan y Bwrdd Iechyd gynllun orthopedig wedi'i gymeradwyo, nid dim ond i ymdrin â'r heriau tymor byrrach o ymdrin â'u rhestrau aros, ond hefyd i gael yr ateb mwy cynaliadwy hwnnw ar gyfer y dyfodol. 

Ac am yr esboniadau cwbl resymol ynghylch pam nad ydyn nhw wedi gwneud mwy dros yr ychydig fisoedd diwethaf, yr her yw mewn gwirionedd y rhyddhawyd y rhestr aros pan na ddylai fod wedi gwneud hynny dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyna ble rwy'n disgwyl gweld cynnydd pellach ac rwy'n gwybod y byddaf yn wynebu cwestiynau gan Aelodau yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor hyd nes datrysir yr amseroedd aros y gall pobl eu disgrifio'n gywir a bod llai a llai o bobl yn aros, nes ein bod yn cyrraedd sefyllfa unwaith eto lle nad oes gennym ni bobl yn aros dros 36 wythnos ac yn sicr nad oes gennym ni bobl yn aros mwy na 52 wythnos am eu triniaeth.