7. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 5 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:10, 5 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad. Pan ddywedais yn y datganiad fy mod wedi rhoi ystyriaeth hir a dwys i'r mater hwn, roeddwn i o ddifrif oherwydd mae hwn wedi bod yn fater anodd iawn o ran casglu'r wybodaeth y mae ei hangen arnom, o ran tystiolaeth a barn y sector, sydd mor begynol, mae hi wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n deg ac yn rhesymol ac yn gymesur, o gofio'r holl bryderon gwahanol sydd wedi'u codi. Ond rwy'n credu ein bod wedi canfod ffordd ymlaen na fydd yn bopeth yr oedd ar pawb ei eisiau, ond pan fo gennych chi gymaint o hollt yn y farn, mae'n anodd iawn cyflawni hynny.

Mae'n bwysig ein bod yn ystyried rôl y ffioedd am leiniau. Penderfynais yn erbyn cyfyngu ar ffioedd am leiniau yn y mesurau y bwriadaf fwrw ymlaen â nhw, ac mae hynny oherwydd fy mod yn credu bod rhai rhwystrau a gwrthbwysau eisoes ar waith i sicrhau bod y ffi am y llain yn cynyddu yn gymesur. Dylid cytuno ar unrhyw gynnydd mewn ffioedd am leiniau rhwng perchennog y safle a pherchnogion y cartrefi mewn parciau a'r trigolion yn y lle cyntaf, ond os nad ydyn nhw'n gallu cytuno, yna gellir mynd â'r mater i'r tribiwnlys eiddo preswyl am benderfyniad. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig wrth gefn, mewn gwirionedd, i'r perchnogion safleoedd, pe byddai angen iddyn nhw gynyddu'r ffioedd am leiniau, ond hefyd i'r trigolion yn ogystal i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y ffioedd am y llain yn deg. Yn gyffredinol, ni ddylai adolygiad blynyddol o'r ffi am y llain bennu cynnydd sy'n uwch na chyfradd berthnasol y mynegai prisiau defnyddwyr heb gynnwys y tribiwnlys eiddo preswyl. Felly, unwaith eto, mae'r cam wrth gefn hwnnw yn bodoli, pe byddai unrhyw gynnydd arfaethedig uwchlaw'r cynnydd hwnnw ar lefel y mynegai prisiau defnyddwyr.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am y pecyn ehangach o ddiwygiadau. Mewn gwirionedd, ar ddechrau eich cyfraniad fe wnaethoch chi ddweud y gall byw mewn cartref mewn parc, ar ei orau, fod yn beth deniadol iawn, ac mae hynny'n hollol gywir, ond, yn ein hymgynghoriad a'r gwaith yr ydym ni wedi'i wneud i ymgysylltu â'r sector, mewn gwirionedd rydym ni wedi gwrando ar straeon ac enghreifftiau lle nad yw byw mewn cartref mewn parc ar ei orau o bell ffordd. Mae llawer o berchnogion cartrefi mewn parciau yn bobl ragorol, sy'n gwneud gwaith ardderchog ar ran y bobl sy'n byw mewn cartrefi yn eu parciau, ond yn yr un modd rydym ni wedi clywed rhai straeon lle nad yw perchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau, er gwaethaf y profion person addas a phriodol sy'n bodoli, yn darparu'r math o wasanaeth y byddem ni'n dymuno ei weld. Dyna un o'r rhesymau pam yr wyf i'n bwriadu gweithio gyda phob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru i sefydlu a oes yna awydd i greu awdurdod arweiniol gwirfoddol ai peidio ymhlith yr awdurdodau lleol yng Nghymru i roi arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar y mater o drwyddedu safleoedd cartrefi mewn parciau. Mae swyddogion eisoes yn dechrau cynnal y sgyrsiau hynny ag awdurdodau lleol, a byddwn i'n sicr yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r awgrym ein bod ni'n cyflwyno canllawiau cryfach yn hytrach na dim ond cryfhau cyngor a gwybodaeth, o ran y camau nesaf ymlaen.