Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. Roeddwn yn cytuno â llawer yn araith Neil McEvoy, ac a dweud y gwir doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Ond rhestrodd nifer fawr o bethau rwyf innau hefyd yn cytuno'n sylfaenol â hwy, ac roeddwn yn cytuno'n sylfaenol â llawer a ddywedodd Llyr hefyd. Ond rydym yn anghytuno'n sylfaenol yn wleidyddol ynghylch annibyniaeth. Nid wyf yn cytuno y byddai Cymru'n well yn annibynnol. Rwyf o'r farn, fel y mae Llywodraeth Cymru, fod llwybr datganoli o fewn y Deyrnas Unedig, ac o fewn Ewrop pe bawn yn cael dewis, yn ffordd well. Ond yn y bôn, cytunaf yn sylfaenol gyda llawer o'r syniadau a gyflwynwyd yn yr araith, ac yn enwedig gyda barn gadarn Llyr ynghylch ynni a dŵr.
Barn gadarn iawn Llywodraeth Cymru yw bod y setliad datganoli yn broses, a bod llawer iawn mwy i'w wneud o ran yr hyn y gall Cymru ei benderfynu yma. Ond rwy'n credu yn y bôn fod bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig o fudd i'n heconomi mewn ffyrdd sylfaenol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ffyrdd y mae o fudd i'n heconomi yn deillio o'r ffaith ei bod bob amser wedi bod yn ailddosbarthol. Cyfrannodd Cymru swm enfawr o'i chyfoeth i lwyddiant y Deyrnas Unedig, ac yn enwedig Llundain a de-ddwyrain Lloegr fel y prif ganolfannau masnachu dros y blynyddoedd, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol, yn fy marn i, y dylai llawer o'r llwyddiant hwnnw gael ei ailddosbarthu yn ôl i Gymru pan fo'i angen.
Credaf mai dyna'r gwahaniaeth gwleidyddol sylfaenol. Nid wyf yn anghytuno o gwbl â'r pwyntiau sy'n ymwneud â dŵr ac ynni. Mae'r Llywodraeth yma yn awyddus iawn i gael y pwerau angenrheidiol i wneud llawer o bethau gwirioneddol ddiddorol, arloesol, a derbyniol yn gymdeithasol gyda phŵer a dŵr. Rhestrodd Neil McEvoy nifer o bethau yr oeddwn yn cytuno ag ef yn eu cylch o ran yr hyn y gallem ei wneud yng Nghymru, a buaswn yn dweud, mewn gwirionedd, ein bod eisoes yn gwneud llawer o'r pethau y mae Neil McEvoy yn eu rhestru. Rwy'n siŵr na fydd yn cytuno â mi ynglŷn â hynny, ond credaf, er enghraifft, ein bod wedi cael llwyddiant mawr gyda mewnfuddsoddi yma, ac mae llawer iawn o'r llwyddiant hwnnw yn deillio o'r ffaith ein bod yn gallu ymateb i anghenion busnesau'n gyflym ac yn sydyn—un o'r pethau a grybwyllwyd gennych, er enghraifft.
Cawsom nifer o lwyddiannau eraill, Lywydd, ac rwy'n meddwl y byddai llawer o bobl yn yr ystafell hon yn awr, a'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, yn cytuno â hynny. Ond nid yw'r cyhoedd ehangach yng Nghymru wedi cytuno mewn polau piniwn blaenorol—er y cytunaf nad yw wedi'i gyflwyno mewn refferendwm—y byddai annibyniaeth yn fuddiol i Gymru ar hyn o bryd. Credaf fod y dull datganoli wedi bod yn wych hyd yn hyn. Roeddwn yn gadarn o'i blaid pan fethodd yn ôl yn y 1970au, ac rwy'n dangos fy oed yn y fan hon, ac roeddwn wrth fy modd pan gafodd datganoli ei le haeddiannol o'r diwedd yma yng Nghymru gyda sefydlu'r Cynulliad. Mae'r daith hyd yma wedi bod yn un dda. Ceir problemau gyda'r setliad datganoli presennol ac rydym oll yn gyfarwydd â hwy—yr ymylon brau ynghylch ynni, rhai o'r pethau dŵr y mae pobl wedi'u hawgrymu, rhai o'r materion a awgrymodd Neil McEvoy mewn perthynas â theithio, er enghraifft, a rhai o'r problemau lle mae'r setliad yn anodd ei ddeall ar gyfer pobl Cymru, ynglŷn â pham y gallwn ac na allwn wneud rhai pethau.
Lywydd, gwn eich bod yn frwd iawn ynglŷn â'r comisiwn cyfiawnder rydym yn edrych arno. Fel y gŵyr pawb, mae'r Llywodraeth wedi gofyn inni ystyried datganoli polisi cyfiawnder troseddol yn arbennig, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny fy hun, oherwydd mae'r hyn y bu modd ei wneud yn yr Alban ynghylch polisi dedfrydu ac adsefydlu troseddwyr yn wirioneddol ddiddorol. Felly, pan allwch gamu'n ôl oddi wrth beth o'r polisi dedfrydu sydd gan Lywodraeth Dorïaidd bresennol y DU, y credaf ei fod yn hynod annoeth ac y dengys yr holl dystiolaeth nad yw'n gweithio, a chyrraedd system sy'n llawer mwy blaengar yn gymdeithasol, fe gewch ganlyniad llawer gwell ar gyfer eich pobl. Hoffwn yn fawr iawn weld hynny'n cael ei ddatganoli.
Ond mae gennym bethau llwyddiannus o ran polisi tramor yn ogystal—ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica lwyddiannus. Ers dros ddegawd bellach, rydym wedi cael cysylltiadau cryf â gwledydd ledled Affrica is-Sahara, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ac annog pobl i gymryd rhan mewn cysylltiadau a phrosiectau yn ein rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rydym yn awyddus iawn i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a pheidio â gwrthod y cyflawniad hwnnw a dechrau eto.
Rydym yn parhau i chwarae rhan sylweddol yn undeb y Deyrnas Unedig, ac rydym yn parhau i fod yn gyfranogwr gweithredol yn undeb Ewropeaidd y dyfodol. Gobeithio y gallwn gyrraedd setliad, ac mae Cymru wedi bod yn allweddol iawn yn y trafodaethau ar hyn, a fydd yn caniatáu inni gael fframwaith cyfansoddiadol da yn y DU ac yn Ewrop. Nid yw'n golygu bod y status quo cyfansoddiadol yn iawn. Nid wyf yn credu bod status quo cyfansoddiadol ein perthynas bresennol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn iawn er enghraifft, a'r dicotomi hwnnw a oedd gennym, yn Ewrop neu allan, fel pe na bai unrhyw ddewis arall, yw un o'n hanawsterau.
Rwy'n credu bod y ffaith fod y ddadl hon wedi cael ei llunio yn y ffordd ddu a gwyn honno yn beth anodd. Credaf ei bod yn sgwrs fwy hyblyg ynglŷn â beth y gallai sofraniaeth ei olygu mewn gwirionedd ar gyfer democratiaeth o'r gwaelod i fyny, fel y dywedodd Neil McEvoy. Nid yw'n golygu annibyniaeth lawn o reidrwydd ar gyfer pob gwlad unigol. Soniodd am Unol Daleithiau America a chyfansoddiad y taleithiau, ond wrth gwrs maent wedi dod at ei gilydd mewn ffederasiwn i roi cryfder iddynt yn y byd, a dyna'r setliad datganoli, setliad y ffederasiwn ffederal, y byddai'n well gennyf fi a'r Llywodraeth ei weld.
Rydym wedi cyflwyno'r cynigion hynny droeon yn y Siambr hon, felly nid wyf am eu hailadrodd yn awr, ond byddwn yn parhau i edrych ymlaen fel rhan lwyddiannus o undeb y Deyrnas Unedig a byddwn yn canolbwyntio ein sylw, ein hadnoddau a'n galluoedd ar yr heriau gwirioneddol, fel Brexit, sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Nid wyf yn meddwl y dylem ddargyfeirio ein sylw ar hyn o bryd drwy sôn am chwalu'r Deyrnas Unedig. Dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar ein gallu i aros yn unedig gyda'n gilydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn fy marn bersonol i.