Cyllid ar gyfer Gwyliau a Digwyddiadau yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:33, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Mae gwyliau yng Nghymru yn gyfle gwych i ddenu twristiaid a hybu economïau lleol. Er enghraifft, mae Gŵyl Fwyd y Fenni wedi tyfu i fod yn un o wyliau bwyd mwyaf y Deyrnas Unedig gan ddenu dros 30,000 o ymwelwyr i'r Fenni a chynhyrchu oddeutu £4 miliwn ar gyfer yr economi leol hon. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chyd-Aelodau’r Cabinet i gefnogi gwyliau bwyd, fel y Fenni, er mwyn cynyddu twristiaeth a'r economi ledled Cymru, os gwelwch yn dda?