Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Mehefin 2018.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'r rhan fwyaf o'r symud yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn digwydd o fewn y rhanbarth, nid allan ohono. Credaf fod angen cwblhau'r llwybrau beicio, ailagor gorsafoedd trenau megis Glandŵr a chreu cyfnewidfeydd bysiau a threnau. Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau o'r fath i wella trafnidiaeth yn ninas-ranbarth bae Abertawe?