Cysylltiadau Trafnidiaeth yn Ninas Ranbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:11, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn rhoi cyfle inni wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y dinas-ranbarth. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys Sir Benfro. Fel y gwyddoch, rwy'n cefnogi deuoli'r A40 yn Sir Benfro, ac rydych wedi dweud yn glir mewn datganiadau blaenorol y byddwch yn datblygu rhaglen maes o law, ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill a nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly ynglŷn â lle mae Llywodraeth Cymru arni mewn perthynas â gwireddu'r cynllun hwn?