Effaith Cwmnïau Cydweithredol ar Economi Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:21, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, sylwaf o adroddiad blynyddol diwethaf Canolfan Cydweithredol Cymru eu bod wedi helpu i ddatblygu pedwar cynllun tai cydweithredol, ac mewn gwirionedd, credaf fod hwn yn sector sydd angen ei ddatblygu ymhellach. Nawr, gwyddom fod cyd-berchenogaeth yn arwain at arloesedd, ac mae 70 y cant o dwf economaidd hirdymor y DU yn seiliedig ar arloesedd, a chredaf y byddai'r defnydd o gydweithrediaethau yn y maes hwn yn rhoi model tai newydd i lawer o bobl yn seiliedig ar eiddo rhent. Yn ychwanegol at hynny, gallent ddefnyddio plotiau llai o dir, a defnyddio busnesau bach a chanolig, gan wella lefelau sgiliau a swyddi i bobl leol. Ymddengys i mi fod hwn yn faes â chryn botensial ar gyfer twf ac arloesedd.