Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:25, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol ar y Bil ymadael â'r UE, a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Ebrill, yn darparu sail gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol. Mae'r cytundeb yn parchu confensiynau cyfansoddiadol sefydledig, ac yn unol â'r rheini, ceir ymrwymiad gan bob ochr i geisio symud ymlaen drwy gytundeb.