Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 6 Mehefin 2018.
Wel, rwy'n anghytuno â rhagdybiaeth yr Aelod na fydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar y materion a fydd yn destun trafodaethau fframwaith rhwng y Llywodraethau. Fel y gŵyr o ddatganiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, bydd pwerau ychwanegol yn dod i'r Cynulliad hwn o ganlyniad i'r cytundeb a sicrhawyd gan y Llywodraeth, a cheir mecanwaith cydsyniad a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol.
Un o'r materion y mae angen eu datrys mewn trafodaethau yn y dyfodol rhwng y Llywodraethau yw cynnwys y fframweithiau cyffredin y mae'n eu crybwyll yn ei chwestiwn. Un o ddimensiynau hynny yw sut y caiff anghydfodau rhwng Llywodraethau, fel partneriaid cyfartal yn y set honno o fframweithiau, eu datrys yn y dyfodol. Mae'r mecanwaith ar gyfer datrys yr anghydfodau hynny yn un o'r materion y mae'r Llywodraethau eto i gytuno arnynt. Nid yw'r trefniadau presennol yn addas at y diben, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno'n llwyr â mi ynglŷn â hynny.
Fe fydd yn ymwybodol o'r fforwm gweinidogol newydd ar drafodaethau'r UE, sy'n bodoli fel y gall y pedair Llywodraeth gyfrannu at y safbwynt negodi mewn perthynas â thrafodaethau'r UE yn y dyfodol. Ac efallai hefyd ei bod yn ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r trefniadau rhynglywodraethol sy'n bodoli eisoes o dan y memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Mae'r ddogfen honno bellach bron yn 20 mlwydd oed ac mae angen ei diwygio, ac mae'r pedair gwlad ddatganoledig yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Ein huchelgais yw ein bod yn newid i fodel cydlywodraethu. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â chreu cyngor Gweinidogion y DU, a fyddai'n bodoli er mwyn osgoi anghytundeb lle bo modd ac i ddatrys anghydfod lle mae'n digwydd. Unwaith eto, mae'r cwestiwn o ysgrifenyddiaeth i gefnogi gwaith Cyngor y Gweinidogion, a mecanwaith datrys anghydfodau, yn allweddol yn hynny o beth.