Cyfreithiau yng Nghymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:35, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw a'r cyfle i egluro'r ateb a roddais. Ni fyddai dirymu'r rhagdybiaeth ddeddfwriaethol, a nodir gan yr ymgynghoriad, yn effeithio ar y sefyllfa a ddisgrifiais i Bethan Sayed. Ni fyddai'r Bil yn newid ystyr y term 'Coron', er enghraifft, ac ni fyddai'n effeithio ar gyfraith bresennol. Os caf ailadrodd: mae'n dirymu'r rhagdybiaeth, fel y bydd yn rhaid i'r Ddeddf yn y dyfodol nodi bod y Goron a'r Llywodraeth wedi'u rhwymo gan statud, er mwyn i hynny ddigwydd.