Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 6 Mehefin 2018.
Mae yna ambell le lle byddwn i yn mynd ymhellach, yn enwedig ym maes ynni adnewyddol, ond rwy'n croesawu’r ffaith ein bod ni'n cael trafodaeth integredig ar sut mae'r gwahanol elfennau yma yn adeiladu i mewn i amgylchedd trefol mwy iach a mwy buddiol i'n dinasyddion ni. Rwyf i am bwysleisio 'trefol'. Mae teitl y papur yn sôn am ddinasoedd, ond, a dweud y gwir, nid oes gyda ni ddinasoedd yng Nghymru; trefi mawr sydd gyda ni yng Nghymru i bob pwrpas. Efallai y bydd pobl Caerdydd yn anghytuno, ond, o safbwynt patrwm datblygiad gorllewin Ewrop, trefi mawr yn benodol sydd gyda ni yng Nghymru. Ond, yn bwysicach, trwy dde Cymru a hefyd mewn rhannau o ogledd Cymru, cyfres o drefi yn ymwneud â'i gilydd, ac mae cysylltedd rhwng y trefi yna a chadw cydbwysedd amgylcheddol o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol yn hollbwysig yn y cyd-destun hynny. Mae syniadau yn y papur yma—rhai newydd, rhai hen. Nid oes dim byd yn bod ar hen syniadau. Os nad ydyn nhw wedi cael eu gweithredu eisoes, ar bob cyfrif ailgylchwch y syniadau nes eu bod nhw'n cael eu gweithredu.
Y prif feirniadaeth sydd gyda fi o hyn—ac fe gaf i hwn mas o'r ffordd cyn bod yn fwy adeiladol—yw ei fod yn cael ei awgrymu gan blaid sydd wedi bod mewn Llywodraeth am wyth mlynedd yn San Steffan a heb wneud unrhyw gynnydd ar rai o'r pwyntiau yma. Felly, mae gorboethi dinas Llundain yn dal i fynd ymlaen o dan gyfundrefn macro-economaidd y blaid bresennol. Mae'r cwynion a'r atebion ynglŷn â datblygu seilwaith cerbydau trydan, er enghraifft, yn amlwg, ond eto nid ydym ni wedi gweld unrhyw ddatblygiad neu brin fuddsoddiad yng Nghymru o Lywodraeth San Steffan yn y maes yma. Mae'r gagendor rhwng y syniadau yn y papur yma a rhai o weithredoedd go iawn y Llywodraeth a'r Blaid Geidwadol yn Llywodraeth San Steffan yn rhywbeth i'w weld. Ond, rwy'n gosod hynny i fyny i bobl sylwi arno a gwneud eu sylwadau eu hunain.
Fel mae prif welliant Plaid Cymru yn ei wneud yn glir, rydym ni am ychwanegu—ac rwy'n falch bod David Melding wedi derbyn bod hwn yn rhywbeth adeiladol—angen am Ddeddf awyr glân ehangach yng Nghymru. Byddai hynny'n effeithio ar bob rhan o Gymru, wrth gwrs. Mae yna agweddau yn y papur y mae'n dda gennyf i eu gweld. Jest i gymryd un enghraifft, mae'r papur yn sôn am fonitro awyr tu fas i feithrinfeydd ac ysgolion ac ati. Rwy'n cefnogi hynny. Rwyf wedi sôn am hynny fy hunan. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud ar ôl ichi fonitro? Pa gamau wedyn ydych chi'n eu defnyddio i sicrhau bod yr awyr yn cael ei glanhau? Achos rwy'n amau, pe byddem ni'n gwneud monitro bywyd go iawn, yn y funud, yn yr eiliad, y byddem ni'n gweld y monitro rydym ni'n ei weld yn y ffigurau cyhoeddus. Mae yna ansawdd awyr gwael iawn tu fas i rai o'r llefydd lle mae ein pobl fwyaf bregus ni—pobl ifanc i ysgolion a phobl hŷn i ysbytai—yn mynd. Y cwestiwn yw: beth ydych chi'n gwneud i weithredu hynny? Dyna pam rŷm ni'n sôn am yr angen am Ddeddf awyr glân i Gymru yn fwy eang, ac nid yn unig i greu y parthau awyr glân roedd David Melding yn sôn amdano, ond i roi hawliau i gymunedau hefyd i fynnu'r wybodaeth yna a defnyddio'r wybodaeth honno i chwilio am welliant yn yr ansawdd awyr lleol.
Rhaid gwneud yn siŵr hefyd fod gan awdurdodau lleol, sydd yn gyndyn iawn ar hyn o bryd yng Nghymru i fentro ar unrhyw fath o bris i dalu naill ai i barcio neu i deithio drwy ddinasoedd ar adegau gwahanol—. Nid yw hynny'n cael ei drafod yn y papur, er bod David Melding wedi crybwyll hwn yn y gorffennol yn y Siambr, rwy'n meddwl. Os ydym ni am fynd i'r afael â rhai o'r problemau yma, mae'n rhaid i ni fynd yn syth i'r afael â'r ffaith fod lorïau mawr disel yn mynd drwy ganol ein dinasoedd ni ar yr adeg pan fo plant yn cerdded i'r ysgol. Mae'n rhaid stopio hynny rhyw ffordd neu ei gosbi mewn ffordd nes bod dewisiadau amgen economaidd yn dod yn ei le. Felly, dyna pam yr ydym ni am annog strategaeth fwy eang ynglŷn ag awyr iach tu fewn i'r cyd-destun hynny.
Fe wnaf i fennu jest drwy ganu trwmped Plaid Cymru, wrth gwrs, fel y byddech chi'n disgwyl mewn dadl fel hon. Rwy'n falch iawn fod y Ceidwadwyr yn sôn am y pethau hyn; mae Plaid Cymru wedi sôn am nifer ohonyn nhw ers rhai blynyddoedd. Ond, yn fwy na hynny, rŷm ni yn fodlon, er yn wrthblaid, i fynd i mewn i drafod gyda Llywodraeth Cymru i roi arian tuag at ateb rhai o'r problemau hyn. Felly, mae £2 filiwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer datblygu seilwaith cerbydau trydan drwy Gymru, ac mae £0.5 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer mynd i'r afael â llygredd plastig, yn benodol drwy'r cynllun blaendal poteli, er enghraifft. Rwy'n credu bod gweithredoedd fel yna yn rhywbeth pwysig iawn i'w weld mewn gwleidyddiaeth. I'r blaid sydd wedi cynnig rhai o'r syniadau da yma, rwy'n gofyn iddyn nhw ystyried hefyd beth mae eu plaid hwythau yn gwneud wrth iddyn nhw fod mewn Llywodraeth.