5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adnewyddu Trefol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:43, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod. Bydd gennyf rai geiriau caredig i'w dweud am yr hyn y mae'n ei gynnig yn nes ymlaen, ond ar y mater penodol hwn—mae wedi sôn am y bargeinion dinesig. Onid yw'n gweld nad yw'r bargeinion dinesig sy'n cael eu hyrwyddo gan ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan yn ystyried yr agenda gynaliadwyedd y mae'r ddadl hon ac i fod yn deg, y papur a gyhoeddwyd, yn ceisio mynd i'r afael â hi mewn gwirionedd?