5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adnewyddu Trefol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:11, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod digonedd i'w hoffi yn y strategaeth hon, ond yr hyn sy'n arbennig o ddeniadol yw pa mor berthnasol ydyw i fy rhanbarth fy hun yng Ngorllewin De Cymru, sy'n ranbarth trefol yn bennaf, ac felly rwyf am ddechrau, yn eithaf dewr, rwy'n credu, gydag un cynnig rwy'n credu y gellid ei wella, os na fyddaf yn ennyn dicter David yma.

Mae £1.3 biliwn wedi'i neilltuo ar gyfer bargen ddinesig bae Abertawe, ac mae hwnnw'n ymwneud yn llwyr â thwf economaidd, gweithgarwch economaidd a dysgu, fel sy'n cael ei nodi yn y cynnig. Mae hynny'n cynnwys buddsoddiad, yn benodol, mewn man arbrofi ar thema'r rhyngrwyd i gefnogi arloesedd gyda chysylltedd symudol 5G. Felly, hoffwn awgrymu mai ardal fetropolitanaidd ehangach Abertawe, yn hytrach na Chaerdydd, a ddylai fod yn un o'r lleoedd cyntaf yn y DU i gyflwyno 5G, oherwydd mae'r cynlluniau eisoes wedi dechrau cael eu datblygu. Mae'r arian yno, ac wrth gwrs mae'n cyrraedd y tu hwnt i'r ddinas ei hun. Rydym yn sôn am ardal drefol, ac nid yw trefol yr un peth â dinesig, sy'n bwynt a wnaed gan eraill heddiw.

Rhan o'r feddylfryd y tu ôl i ddinas-ranbarth digidol oedd gostyngiad mewn anghenion trafnidiaeth traddodiadol, a bydd hynny'n wir i ryw raddau, ond bydd pobl eisiau cysylltu â'u hamgylchedd ffisegol ehangach o hyd, rwy'n credu, sy'n datblygu i fod yn brofiad llai braf ym Mhort Talbot ac Abertawe—rhan o fy rhanbarth i—yn enwedig oherwydd y llygredd diwydiannol ynghyd â'r nitrogen deuocsid o'r traffig sydd, fel y clywsom, wedi cyrraedd lefelau anghyfreithlon, a go niweidiol wrth gwrs. Gwn ein bod wedi trafod hyn o'r blaen gyda Gweinidog yr amgylchedd.

Nid problem i ganol y ddinas yn unig yw hon. Credaf y bydd yn ddiddorol gweld a fydd ffordd osgoi Hafod, er enghraifft, yn lleihau'r effaith ar Ysgol Pentrehafod, neu a fydd y ffaith bod y trenau'n cael eu gadael yn segur am 10 awr neu fwy yng Nglandŵr yn dileu effaith y darn hwnnw o gynllunio trefol. Felly, rwy'n falch o weld gwelliant Plaid Cymru hefyd mewn perthynas a Deddf aer glân, ond rwy'n credu y gallem fwrw ymlaen â pharthau aer glân yn awr, fel yr awgrymai'r strategaeth.

Mae cysylltu â'r amgylchedd ehangach yn golygu ein hamgylchedd cerdded hefyd, ac mae'r gwaharddiad plastigau, wrth gwrs, yn ffordd werthfawr iawn o fynd i'r afael â'r broblem o sbwriel ar y strydoedd, ond gwnaeth cynlluniau Caerdydd i dargedu'r gwaith o lanhau o flaen tai a drysau, a bagiau gwrth-wylanod argraff arbennig arnaf. Rwy'n eithaf hyderus nad oes gan wylanod y penwaig yn Abertawe unrhyw syniad o gwbl sut beth yw pennog. Maent yn gallu torri i mewn i gartonau byrgyr Styrofoam yn gyflymach na thîm pêl-droed o dan 10 oed ac mae'r rhan fwyaf ohonynt i'w gweld yn fwy o faint ac yn llawer mwy digywilydd na'r plentyn 10 oed cyffredin hefyd. Mae honno'n broblem ynddi'i hun, oherwydd gwyddom am lygod mawr a sbwriel, ond pan fydd yn amser nythu neu pan fydd yn amser i'r cywion sydd wedi'u magu ar nygets cyw iâr ddysgu sut i hedfan, mae gwylanod llawndwf yn troi'n fomiau, ac maent yn beryglus iawn. Yr unig ochr gadarnhaol i hyn yw eu bod yn hoffi beicwyr ar balmentydd yn arbennig, ond mae hynny'n wir amdanaf fi hefyd.

Nawr, cyn i bobl wylltio am hynny, pam fod rhai pobl yn beicio ar balmentydd? Weithiau mae'n deillio o anwybodaeth go iawn ac weithiau o ystyfnigrwydd, ond yn aml iawn mae'n deillio o'r ffaith bod wyneb y ffordd yn rhy beryglus, yn ogystal â'r traffig, ac mae pawb ohonom yn gwybod am hynny, ac yn aml iawn, am fod lonydd beicio wedi'u hôl-osod yn y lle anghywir neu oherwydd bod yr awdurdod lleol yn credu ei bod yn bwysicach cael gwely o lilïau llin ynghanol y ffordd, yn hytrach na defnyddio'r gofod hwnnw'n greadigol i greu man beicio diogel.

Dyna pam y caf fy nenu at y gronfa feicio gymunedol—soniodd Oscar amdani'n gynharach—oherwydd mae'n enghraifft wych o gydgynhyrchu yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n golygu mai cymunedau lleol sy'n dylunio eu rhwydweithiau beicio a'u seilwaith eu hunain, fel parciau beic diogel. Mae hefyd yn rhoi cyfle i feicwyr wneud cais i gael defnyddio rhai—ond nid pob un—o'r palmentydd presennol a'r ardaloedd i gerddwyr yn unig, oherwydd gall beicwyr a cherddwyr ddefnyddio rhai yn ddiogel os yw'r defnydd o'r gofod sydd ar gael wedi'i gynllunio'n dda, er fy mod yn cydnabod pwynt Gareth nad yw rhannu gofod yn ddelfrydol bob amser. Mae'n llawer gwell os ydynt yn cael eu cynllunio ar wahân yn y lle cyntaf.

O ran creu parthau cerddwyr, credaf fod gennym rai gwersi i'w dysgu o'r gorffennol. Mae gennym enghreifftiau gwych yng Nghaerdydd, ynghyd â pharcio cyfleus o ansawdd lle mae'n gwahodd siopwyr ac ymwelwyr eraill i aros am gyfnod hir o amser a cherdded—a beicio weithiau—yn yr ardal, ond mae yna enghreifftiau ofnadwy yn ogystal, fel Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal ag effaith y rhyngrwyd a pharciau manwerthu, mae'r stryd fawr yno yn cau yn raddol o ganlyniad i'r ffaith bod gormod o barthau cerddwyr wedi cael eu creu. Mae bellach yn llawn o bobl yn gofyn am danysgrifiadau neu roddion. Mae'r strydoedd hyn, a arferai fod yn brysur iawn, wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu cleientiaid, os mynnwch—siopwyr manion ychwanegol, pobl sy'n mynd i dorri eu gwalltiau, coffi cyflym. Nid yw'r meysydd parcio'n ganolog iawn ac mae'r ffyrdd prysur drwy'r dref yn peri i bobl a allai gael eu temtio i gerdded i ganol y dref beidio â gwneud hynny, a daw hynny â mi, wedyn, at y gofod preswyl. Nid oes gennyf amser i roi'r sylw y mae'n ei haeddu i'r mater hwn: tai sy'n pontio'r cenedlaethau, y lleoliad ac ati. Rwyf am adael hynny ar gyfer diwrnod arall.

Roeddwn eisiau sôn am y mannau gwyrdd. Mae effeithiau llesiant y rheini wedi'u cofnodi mor dda, ac mae'n un o'r rhesymau pam rwy'n ei chael hi mor anodd deall penderfyniad cyngor Abertawe i adeiladu ysgol ar safle Parc y Werin—yr unig fan gwyrdd o'i fath yng nghanol tref Gorseinion—pan fo mwy nag un safle amgen ar gyfer yr ysgol honno.

Yn bwysicaf oll ac yn olaf, mae'n rhaid i ni gynllunio gyda gweledigaeth yn hytrach na phanig. Mae peidio ag adeiladu dim am flynyddoedd ac yna cyflwyno'r ystadau enfawr hyn filltiroedd oddi wrth y cyfleusterau trefol y soniodd Oscar amdanynt yn ystumio cymunedau ac yn arwain at fywyd mewn car, nid beicio a cherdded, pan allem fod yn byw mewn dinasoedd gwirioneddol dda i fyw ynddynt. Diolch.