Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn wir, rwy'n falch iawn o wneud y cynnig ac agor y ddadl hon y prynhawn yma. Am y tro cyntaf mewn hanes, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn byw mewn cymunedau trefol. Yn 2010, cyfrifwyd bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yn ei hardaloedd trefol ac mae'r ganran hon wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Ni ddylai hyn fod yn syndod i'r un ohonom mewn gwirionedd gan fod dinasoedd a threfi yn ganolfannau menter, arloesi a dysgu. Maent yn creu cyfoeth ac yn gwella safonau byw, tra'n darparu rhwydwaith a rhyngweithiad sy'n ein gwneud yn fwy creadigol ac yn fwy cynhyrchiol.
Mae'r crynhoad o dalent a chreadigrwydd yn gwneud dinasoedd yn beiriannau arloesi ac yn beiriannau twf economaidd—lleoedd y dylem eu dathlu, ac yn yr ysbryd hwnnw rydym wedi cyflwyno pwynt 1 ein cynnig y prynhawn yma, sy'n ceisio cydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru, gan ein bod yn ei ystyried yn rhy eang i ddibenion y prynhawn yma. Yn sicr, mae angen triniaeth lawn, a thriniaeth gydategol, ar ardaloedd gwledig, ond daw hynny'n bennaf drwy'r polisi gwledig, a heddiw, rwyf eisiau canolbwyntio o ddifrif ar yr heriau a'r cyfleoedd trefol sydd ger ein bron.
Buaswn yn dweud nad ydym, mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru, yn derbyn y lefel o weledigaeth ac uchelgais rydym ei hangen gan y Llywodraeth i alluogi ein gwlad i gyrraedd ei photensial llawn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi cydnabod hyn, ac rydym wedi cyflwyno ein gweledigaeth i greu trefi a dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol creu dinasoedd y gellir byw ynddynt ac ardaloedd trefol sy'n dda i'r economi, sy'n gynhwysol yn gymdeithasol, sy'n amgylcheddol gynaliadwy, ac sydd wedi'u hadeiladu ar egwyddor iechyd a llesiant ein dinasyddion. Mae angen iddynt gynnig yr ansawdd bywyd a'r cyfleoedd sy'n gwneud i ddinasyddion fod eisiau byw ynddynt, ond hefyd sy'n gwneud i fusnesau fod eisiau buddsoddi, ac i'r busnesau hynny ddod o bell ac agos.
Mae gennym gyfle i ddenu pobl ifanc fedrus iawn sydd ar hyn o bryd yn cael eu gwthio allan o Lundain a rhanbarth gorboeth de-ddwyrain Lloegr. Rwy'n credu o ddifrif fod gan y dinasoedd ar hyd arfordir de Cymru, yn ogystal â'r ardaloedd trefol yng ngogledd Cymru, botensial mawr yma pan fo cymaint o dalent na fydd yn cael yr un lefel o gyfle economaidd a chymdeithasol ag y byddent yn dymuno ei chael yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Mae'n gyfle gwych. Mae'n un o'r ardaloedd economaidd mwyaf gorboeth yn y byd, a dylem fod yn edrych arni fel adnodd, fel y mae llawer o ddinasoedd yng ngogledd Lloegr yn ei wneud yn barod. Mae gennym amgylchedd gwych mewn dinasoedd fel Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe, felly mae'n rhaid i ddinasoedd mawr Cymru fod yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer ein pobl ifanc, ac entrepreneuriaid cymdeithasol, creadigol a busnes yfory. Gallwn adeiladu dinasoedd newydd, modern o'r radd flaenaf ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd wedyn yn gosod y bar ar gyfer dinasoedd eraill yn Ewrop, Asia ac America, os oes gennym weledigaeth uchelgeisiol iawn. O ystyried maint optimwm, mewn llawer o ffyrdd, ein dinasoedd, gallwn ymestyn y safonau rydym eisiau eu gweld ar gyfer bywyd modern.
Yng Nghymru, fodd bynnag, nid ydym eto wedi gweld y twf economaidd sylweddol sydd wedi'i wireddu mewn llawer o ddinasoedd eraill ledled y DU. Rwyf eisoes wedi crybwyll Llundain, ond yn fwy penodol i ni, Manceinion, Birmingham a Chaeredin, ond hefyd gallwn grybwyll Leeds a Sheffield. Nid ein cystadleuwyr ni yw'r dinasoedd hyn mewn gwirionedd—credaf fod cymaint o gyfleoedd yno—ond maent wedi dangos mwy o fenter ac uchelgais yn y ffordd y maent yn symud ymlaen, ac nid ydym eisiau cael ein gadael ar ôl.
Nawr, gyda dyfodiad bargeinion dinesig Caerdydd ac Abertawe, a'r cydweithrediad hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae'n wir ein bod yn gweld mwy o gyfle a mwy o uchelgais, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond er bod y bargeinion hyn yn arwyddocaol iawn, ac yn amlwg i'w croesawu'n fawr, maent hefyd yn creu heriau mawr, oherwydd rydym angen ailwampio ein polisi trefol a'n gweledigaeth fel ein bod yn gweld y math o dwf rydym ei eisiau mewn gwirionedd i rymuso a bod o fudd llawn i'n dinasyddion, yn ogystal â bod yn gynaliadwy.