5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adnewyddu Trefol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:23, 6 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, a hoffwn longyfarch y prif siaradwr ar gyflwyno dogfen bolisi mor ddiddorol a deinamig, sy'n ceisio mynd i'r afael â llawer o'r cwestiynau rydym ni, fel aelodau etholedig, yn eu derbyn gan ein hetholwyr os ydym yn cynrychioli dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, neu yn wir ein trefi mwy o faint megis y Drenewydd, Wrecsam, neu'r Barri. Oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes raid i ni briodoli'r ddogfen hon i'r ardal drefol yn unig; gall ymestyn i'n trefi mwy a'n trefi marchnad ar hyd a lled Cymru. Un peth sy'n amlwg yn syth pan fyddwch yn darllen y rhagair i'r ddogfen yw bod bron 70 y cant o boblogaeth Cymru bellach yn byw mewn ardal drefol. Gallech ddweud 'Diffiniwch "ardal drefol" a thrafodwch', ond mae gan y rhan fwyaf o bobl ddelwedd o Gymru—ac maent yn gywir i fod â delwedd o Gymru—fel gwlad werdd hyfryd, oherwydd mae'r mwyafrif helaeth o dir Cymru yn wyrdd ac yn hyfryd. Ond pan fyddwch yn ei hystyried ar sail poblogaeth, mae hyn yn effeithio ar nifer enfawr o'n cydwladwyr sy'n troi at eu gwleidyddion i liniaru melltith llawer o benderfyniadau gwael a gafodd eu gwneud gan genedlaethau blaenorol, yn enwedig wrth gynllunio trefi, ac yn enwedig yn ystod cyfnod briwtalaidd y 1960au a'r 1970au, lle y cafodd jynglau concrit eu creu a phan gafodd yr atebion rydym yn dweud y dylid eu rhoi ar waith heddiw mewn perthynas â mesurau trafnidiaeth eu diystyru'n llwyr, pan oedd llawer mwy o gyfle i glirio safleoedd a chreu'r gofod trefol hwnnw, y mannau addas i fyw ynddynt, y soniodd David amdanynt yn ei sylwadau agoriadol, ac y dylem fachu arnynt yn awr a bwrw ymlaen â hwy.

Credaf ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru, ac ar bob plaid wleidyddol, i ganfod yr atebion a llunio'r trywydd y mae'r ddogfen hon yn ei nodi'n glir, yn sicr, fel cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i lawer o'r cwestiynau perthnasol hyn ac yn wir, rhoi llinell amser i'r atebion y byddwch yn eu rhoi ar waith, oherwydd mae'r ddogfen yn mapio llinell amser rhwng 2025 a 2040, sef pryd y byddem ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn hoffi gweld llawer o'r polisïau hyn ar waith i wneud gwahaniaeth. Gadewch i ni beidio ag anghofio ein bod ar ei hôl hi oherwydd y meiri metro a'r meiri dinasoedd yn Lloegr, ar hyd Clawdd Offa, o Fryste hyd at Lerpwl a Manceinion, a Birmingham rhyngddynt—caiff llawer o feiri dinasoedd eu hethol yn y blwch pleidleisio ar sail eu gallu i wneud y gwelliannau mawr hyn, yn economaidd ac yn amgylcheddol, yn niwylliannau'r dinasoedd y maent yn llywyddu drostynt yn awr. Nid yw'n bolisi canolog gan y Llywodraeth i ddarparu'r rhan fwyaf o'r mentrau hyn ar lawr gwlad bellach; cyfrifoldeb y meiri metro a'r meiri dinasoedd yw gwneud hynny.

Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â datganoli cyfrifoldebau i'n hardaloedd trefol fel y gallant ddefnyddio deinameg yr economi leol a'r atebion lleol y gellir eu rhoi ar waith ar gyfer rhai o'r enillion cyflym a chynnar rydym angen eu cyflawni, ac yna'r atebion mwy hirdymor y mae angen eu rhoi ar waith gyda system gynllunio fwy cydgysylltiedig. Dro ar ôl tro, pan edrychaf ar yr amgylchedd cynllunio o amgylch Caerdydd, y cefais y pleser o'i gynrychioli yn y Siambr hon ers bron i 12 mlynedd bellach—. Nid Caerdydd yn unig ydyw; yn ei ymyriad yn gynharach, gofynnodd yr Aelod dros Lanelli 'beth am yr ardaloedd pellennig?' Nid oes ond angen i chi deithio ar hyd yr A40 yn y bore i weld y cymudo i mewn i Gaerdydd, ac yna teithio'n ôl i'r cyfeiriad arall i weld y cymudo o Gaerdydd, i ddangos mai'r dinasoedd yw'r peiriannau twf ar gyfer y rhanbarth ehangach sy'n amgylchynu'r ardal honno. Felly, mae'n rhaid i ni gael system gynllunio sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, yn hytrach na'r 1950au a'r 1960au, a'r trydydd degawd yr ydym ar ei drothwy o'r unfed ganrif ar hugain honno.

Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon dros y 12 mlynedd diwethaf ac wedi clywed amryw o Weinidogion cynllunio, o'r dadleuon a'r datganiadau gwych roeddem yn arfer eu cael gan y gŵr â'r un enw a mi, Andrew Davies, a'r cynllunio gofodol—beth bynnag y câi ei alw. Roedd yn arfer bod yn artaith i ni, a bod yn onest, nifer y dadleuon yr arferem eu cael.