Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau, er gwaethaf ein gwelliant ni, drwy groesawu'r drafodaeth rŷm ni'n ei chael heddiw. Nid wyf i'n meddwl ei bod yn briodol ein bod ni'n croesawu'n ffurfiol papur sydd wedi cael ei gynhyrchu gan unrhyw blaid, mewn ffordd, ond rwy'n croesawu'r drafodaeth, rwy'n croesawu'r hyn sydd yn y papur ac nid oes gennyf i ddim byd y byddwn i'n bersonol yn anghytuno ag e yn y papur.