Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 6 Mehefin 2018.
Roeddwn yn gwybod na fyddech yn gadael i mi wneud. Cymerwch y ddadl hon o lle y daw: ymgais yw hi, fel y dywedodd David Melding ar y dechrau, i fod yn gyfraniad adeiladol at ddadl y gwn fod pawb ohonom am ei chael, dadl y mae angen i bawb ohono ei chael, a gadewch inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o wneud ein hardaloedd trefol yng Nghymru yn lle gwell i bawb sy'n byw ynddynt.