Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 6 Mehefin 2018.
Rhof ychydig o gyd-destun i’r ddadl yn gyntaf. Mae Cymru yn wlad sydd yn gyfoethog ac yn gyforiog o ynni, a dweud y gwir. Rydym ni'n cynhyrchu mwy o ynni—'casglu' dylwn i ddweud, yn ffisegol gywir—nag yr ydym ni yn ei ddefnyddio, felly rydym ni'n allforio ynni. Ond eto i gyd, mae prisoedd ynni yng Nghymru ymysg yr uchaf yn Ewrop. Mae hynny yn dangos y sefyllfa rydym ni ynddi fel gwlad. Mae tlodi ynni yn arbennig o ddifrifol i aelwydydd ag incwm isel. Tueddol ydym ni, wrth gwrs, i gael systemau talu ad hoc am ynni, ac nid ydyn nhw'n gallu mynd at y tariffs gorau. Mae gyda ni hefyd yng ngorllewin Cymru ardaloedd helaeth sydd heb fod ar y grid cenedlaethol, sy'n dibynnu ar nwy neu olew sy'n cael ei fewnforio. Mae hefyd yn wir i ddweud, er ein bod ni'n cynhyrchu ynni, fod gyda ni'r capacity i gynhyrchu llawer mwy, yn enwedig o safbwynt ynni adnewyddol. Mae yna 5 miliwn erw o dir yng Nghymru lle gallem ni gynhyrchu o'r arfordir ac o'r tir mawr. Mae economi Cymru yn galw am swm mawr o drydan—mae gyda ni weithfeydd cynhyrchu a gweithfeydd dur mawr o hyd—ac felly mae angen yr ynni arnom ni.
Mae creu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru yn gyfle i fynd at wraidd achosion tlodi ynni, trwy fuddsoddi mewn seilwaith, trwy fargeinio ar y cyd, trwy ddefnyddio grym cwmni cenedlaethol, ymchwil a datblygu ynni, a thrwy hynny greu cyfleoedd masnachol er lles poblogaeth Cymru a'r amgylchedd. Nid ffracio yw'r ateb ar gyfer defnyddio ynni er economi Cymru, ond cysyniad mawr fel hyn sy'n defnyddio holl rychwant cyfoeth naturiol Cymru.
Rydym ni hefyd yn wynebu bygythiad gwirioneddol i ddynoliaeth oherwydd newid hinsawdd. Roedd 2016 ymysg—wel, na, honno oedd y flwyddyn boethaf ers inni ddechrau cofnodion, ac rydym ni newydd gael y mis Mai mwyaf twym erioed, ers dros ganrif, ers dechrau cofnodi fesul mis. Os ydym o ddifri am dorri allyriadau Cymru o 80 y cant erbyn 2050, fel sydd wedi'i osod allan yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a chyrraedd y targed y cytunodd pob plaid arno yn y fan hyn o dorri allyriadau carbon 40 y cant erbyn 2020, sef yr hyn mae cytundeb Paris yn disgwyl inni ei wneud yn ogystal, mae'n golygu bod yn rhaid inni wella effeithlonrwydd ynni, rhyddhau llai o allyriadau o gartrefi, busnes a chludiant, ac mae hefyd yn golygu bod angen inni gynhyrchu ynni o ffynonellau glanach ac adnewyddol.
Ein gweledigaeth ni, felly, am ynni a'r amgylchedd yw un lle mae Cymru yn gostwng ei hallyriadau carbon, yn harneisio ei hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn manteisio ar gyfleoedd yn yr economïau carbon isel a chylchol. Mae'r cyswllt rhwng ynni a newid hinsawdd yn glir. Fodd bynnag, gwaetha'r modd, rydym ni eto yn y sefyllfa o orfod aros i San Steffan roi ambell friwsionyn i ni o'r bwrdd pan ddaw'n fater o bwerau dros ynni.
Yn Llundain y penderfynwyd ar y rhan fwyaf o gymhellion ariannol dros ynni adnewyddol a dyfodol y gridiau nwy a thrydan, er bod gyda ni'r hawl i gynllunio ynni, a chynllunio ynni o dan 35 MW erbyn hyn. Y ffaith amdani yw mai lle mae'r grid yn gweithio a lle mae'r arian yn mynd sydd yn gyrru datblygiadau. Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu caniatáu cynllunio—ar ddiwedd y dydd, mewn ffordd, dim ond tic mewn bocs yw hynny. Mae'r penderfyniadau yn cael eu gwneud llawer ynghynt.
Nawr, beth fyddai cwmni ynni cenedlaethol yn gallu ei wneud i Gymru, felly? Wel, byddai cylch gorchwyl cwmni posib yn cynnwys lleihau cost yr uned ynni i gartrefi a busnesau yng Nghymru, lleihau swm yr ynni mewn cartrefi a busnesau, a helpu defnyddwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a thechnoleg y mesuryddion clyfar diweddaraf. Tasg Ynni Cymru fyddai cyllido a gosod paneli solar ar raddfa eang, ar doeau tai a busnesau, ar byst lamp, er enghraifft—i orgyffwrdd, efallai, rywfaint â'r drafodaeth a gawsom ni eiliad yn ôl fan hyn. Byddai hyn yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol o dan ymbarél cenedlaethol, gan gychwyn, efallai, gydag adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol. Byddai'r cwmni yn medru cydgordio, hwyluso defnydd o dir cyhoeddus ar gyfer ynni adnewyddol. Gallai dalu am gaffael a datblygu gallu cynhyrchu a storio i raddfa fawr. Mae potensial i Gymru ddatblygu yn wlad storio ynni, yn ogystal â chasglu a chynhyrchu ynni. Gallai sicrhau bod Cymru yn dod yn hunangynhaliol mewn ynni adnewyddol, ac yn allforio ynni adnewyddol yn ogystal. Mae Plaid Cymru o'r farn y gallwn ni wneud hyn erbyn 2035, a dyna ein targed ni.
Gallai'r dasg o ddatblygu rhwydwaith genedlaethol o gwmnïau ynni rhanbarthol neu leol fod yn nwylo bwrdeistrefol neu o dan berchnogaeth gymunedol. Nawr, mae hyn yn bwysig iawn. Ers i Lywodraeth Cymru—ac mae'n cael ei adlewyrchu yn eu gwelliant nhw i'r ddadl heddiw—wrthod y syniad yn ystod tymor yr hydref diwethaf o gwmni ynni cenedlaethol, fel yr oeddem ni wedi ei gynnig, maen nhw wedi dweud, 'Mae angen perchnogaeth gymunedol o dyrbeiniau gwynt a datblygiadau ynni adnewyddol.' Wel, sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny? A sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny heb i'r cymunedau lleol gael eu twyllo, os liciwch chi, gan rip-offs, baswn i'n ei ddweud, gan y cwmnïau mawr, enfawr yma—rhai rhyngwladol nid jest cenedlaethol. Wel, mae Ynni Cymru, rhyw gwmni cenedlaethol, yn gweithio er lles y gymuned leol ac yn enw Llywodraeth Cymru, yn gallu sicrhau nad yw hynny'n digwydd, a bod perchnogaeth gymunedol yn dod yn wirionedd yng Nghymru.
Byddwn ni ymhell ar y blaen, felly, o ran rhai o'r datblygiadau sydd gan awdurdodau lleol yn Lloegr ar hyn o bryd, wrth ddatblygu eu cwmnïau ynni eu hunain. Ac os rhywbeth, mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a hefyd marchnad ynni fewnol yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn—nid yw'n cael ei drafod lawer iawn. Mae gadael honno yn un cam ymhellach oddi wrth y ffaith ein bod ni'n gallu cael iws o interconnectors, yn gallu rhannu ynni, rhannu syniadau, rhannu'r un delfryd. Mae hynny i gyd yn golygu, yn fy marn i, y dylem ni gyflymu tuag at fod yn hunangynhaliol o ran ynni. Ac mae Plaid Cymru yn gryf o'r farn, fel y dywedais i, y byddai modd gwneud hynny erbyn 2035, a defnyddio ynni a ffynonellau adnewyddol at y pwrpas hwnnw. Mae hyn i gyd yn ein harwain ni at y sefyllfa sy'n debyg o ddigwydd yr wythnos yma.