6. Dadl Plaid Cymru: Sefydlu Cwmni Ynni Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 6 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:24, 6 Mehefin 2018

Yn fy etholaeth i yn Arfon, mae gennym ni dri cynllun ynni dŵr cymunedol llwyddiannus, a chynlluniau ar y gweill ar gyfer mentrau newydd. Dyma’r union fath o fentrau sydd angen cefnogaeth, ac mi fyddai sefydlu cwmni Ynni Cymru, fel y mae Plaid Cymru yn ei argymell heddiw, yn gallu rhoi hwb sylweddol i’r sector yma, ar ben y buddion eraill sydd wedi cael eu hamlinellu.

Mae’r sector cymunedol wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd diwethaf: o’r cyfnod cyn y feed-in tariffs, pan oedd grantiau 100 y cant ar gael, i gyfnod y FIT, pan welwyd cymunedau yn elwa ar ynni gwyrdd, i ddiflaniad y FIT a chyfnod llai sefydlog yn sgil hynny.

Mae’r dyfodol braidd yn ansicr ar hyn o bryd, felly, ond fe allai Ynni Cymru roi ffocws pendant i waith y cynlluniau cymunedol, rhoi pwyslais ar gydweithio rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdodau lleol, a’r cymunedau eu hunain. Os nad ydy cynllun morlyn Abertawe i ddigwydd, yna fe ddylid buddsoddi’r arian mewn mentrau ynni adnewyddol, gan gynnwys prosiectau sy’n berchen i’r gymuned.

Cynllun o'r math yna ydy Ynni Ogwen. Pobl leol ydy 85 y cant o’r cyfranddalwyr, ac fe godwyd bron i £0.5 miliwn mewn deufis mewn cyfranddaliadau lleol. Nid ydym ni'n sôn am ardal gyfoethog yn y fan hon. Rydym ni'n sôn am gymuned ôl-ddiwydiannol, gymharol dlawd, ond cymuned falch a chymuned sydd wedi gweld gwerth mewn cynhyrchu ynni glân er budd y gymuned leol.

Mae Ynni Ogwen yn fwy na chynllun dŵr. Mae'r cynllun hefyd wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth am faterion amgylcheddol a newid hinsawdd, a'r gymuned ei hunan sydd wedi cynhyrchu’r ynni glân yma. Nhw biau fo, ac mae hynny yn rhoi hyder i'r gymuned yma.

Mae’r rhai sydd yn gysylltiedig â mentrau fel Ynni Ogwen a’u tebyg yn dweud yn glir bod angen mwy o fuddsoddiad ariannol, ond hefyd mwy o gefnogaeth strwythuredig gan lywodraeth leol a chanol, yn cynnwys cefnogaeth ymarferol. Nid oes gan grwpiau cymunedol mo’r arbenigedd peirianyddol ac amgylcheddol yn aml iawn, ac mae prynu i fewn y math yna o arbenigedd yn gallu bod yn gostus. Dyma rôl y gallai Ynni Cymru ei chyflawni: darparu’r gefnogaeth ymarferol ac arbenigol mewn ffordd hygyrch.

Mewn cyfres o gyfarfodydd ar ynni cymunedol a gafodd eu cynnal ar draws Cymru efo cefnogaeth Prifysgol Bangor yn y gwanwyn eleni, fe gafwyd cyfle i drafod cyfleon a heriau’r dyfodol ar gyfer ynni cymunedol yng Nghymru. Mi oedd Ynni Ogwen, Awel Aman Tawe a chynllun ynni cymunedol Abertawe yn rhan ganolog o’r digwyddiad. Mi oedd y trafodaethau yn arwain at nifer o gasgliadau. Mae'r sector yn dweud bod angen cefnogaeth strategol gadarn ar gyfer ynni cymunedol yng Nghymru; mae angen cysondeb yn y lefel o gefnogaeth sydd ar gael, a symud i ffwrdd o newidiadau cyson; mae angen datblygu dull i alluogi masnachu uniongyrchol rhwng y cynlluniau lleol a busnesau a defnyddwyr lleol; mae angen ymrwymo llywodraeth leol a byrddau iechyd i brynu ynni yn lleol; mae angen i adrannau megis datblygu economaidd, cynllunio ac ynni weithio’n llawer agosach efo’i gilydd; ac mae angen hybu’r sector llawer mwy ar draws Cymru, gan dynnu sylw at yr holl fuddiannau. Dyma waith a allai gael ei wneud yn gwbl effeithiol gan gwmni Ynni Cymru.

Mi ddylai taclo tlodi tanwydd fod yn ganolog i ddatblygiad ynni cymunedol. Efo 23 y cant o gartrefi Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd, mae'n rhaid i’r ffocws fod ar daclo tlodi. Mae’r Ganolfan Ynni Cynaliadwy wedi canfod bod mwy o brosiectau yn deillio, mewn gwirionedd—y prosiectau cymunedol—o'r ardaloedd mwy cyfoethog. Fel y mae’n diwgydd, mae Ynni Ogwen yn gwrthbrofi'r pwynt yna, ac yn eithriad yn hynny o beth, ond mae angen mwy o gefnogaeth yn y cymunedau incwm isel i gefnogi mentrau ynni cymunedol er mwyn i’r cymunedau hynny gael gwir fudd economaidd, cymdeithasol a iechyd sy’n dod yn sgil y prosiectau.

Byddai creu Ynni Cymru yn gallu dwyn hyn oll ynghyd a rhoi ffocws a chyfeiriad clir i’r gwaith y mae angen ei ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf, gan ddod â grwpiau at ei gilydd, gan gefnogi a chynnig arbenigedd, a hynny ar draws Cymru—yn yr ardaloedd trefol a gweledig fel ei gilydd. Drwy hynny, gellid gweld y sector cymunedol yn tyfu’n gyflym, gan gyfrannu at greu sector ynni adnewyddol cyffrous yng Nghymru, yn defnyddio ein hasedau naturiol i’w llawn potensial er lles ein gwlad.