Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 6 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roeddwn yn synnu rhywfaint, ond wrth fy modd serch hynny, yn cael testun y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP ar gyfer y ddadl y prynhawn yma oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo ymagwedd arloesol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, ac i dynnu sylw at ddiffygion ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at gymorth i fyfyrwyr yn Lloegr. Mae hefyd yn dangos sut y byddai UKIP yn hoffi troi Cymru'n genedl sydd ond yn darparu cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd â'r mwyaf o adnoddau, a phan agorodd Michelle Brown y ddadl hon drwy ddweud nad oedd yn ymwneud â mynediad neu degwch, wrth gwrs nad ydyw: nid yw byth yn ymwneud â mynediad neu degwch i UKIP. Yn wir, rwy'n amau a ydynt yn gwybod ystyr y geiriau.
Rwy'n falch felly, Lywydd, o ddechrau gyda chrynodeb o'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ym mis Medi eleni. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i adolygiad annibynnol o gymorth i fyfyrwyr ac addysg uwch, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond, a groesawyd gan brifysgolion, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a llawer o randdeiliaid ar draws y genedl.
Bydd y system newydd yn darparu'r canlynol: system deg a blaengar o gymorth sy'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio—o dan y system hon, bydd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael y cymorth mwyaf gan y Llywodraeth hon; hawl gyffredinol i grant o £1,000 y flwyddyn ar gyfer pob myfyriwr, yn ogystal â hawl i ddiddymiad rhannol o hyd at £1,500 oddi ar fenthyciadau cynhaliaeth pan fydd myfyrwyr yn dechrau ad-dalu eu benthyciad; model ariannu cynaliadwy ar gyfer addysg uwch a chyllid myfyrwyr; ac ateb synhwyrol a chynaliadwy i gynyddu'r cyllid a ddarperir ar gyfer pynciau STEM. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cymorth cyfartal i israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser ac amser llawn—y cyntaf o'i fath yn y DU; yn wir, y cyntaf o'i fath yn Ewrop—a mwy o arian i'r sector addysg uwch, fel y gall weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis ehangu pynciau drud, ehangu darpariaeth ran-amser, buddsoddi mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd, ehangu trosglwyddo gwybodaeth ac ehangu mynediad at addysg uwch.
Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau ar y trefniadau cymorth i fyfyrwyr meddygol a gofal iechyd, ac rwyf wedi dychryn braidd fod Aelodau UKIP i'w gweld yn gwbl anymwybodol o'r cynllun bwrsariaeth GIG presennol sy'n cefnogi nid yn unig ein nyrsys, ond amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ac efallai yr hoffai UKIP edrych ar ymgynghoriad presennol y Llywodraeth ar ddyfodol y trefniadau hyn. [Torri ar draws.] Darren.