Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 6 Mehefin 2018.
Wel, wrth gwrs, mae'r rhai sy'n derbyn bwrsariaeth GIG Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio yn GIG Cymru, ac rwy'n ystyried ehangu hynny, er enghraifft, o ran lleoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr addysg, a ariannir gennym. A hoffwn nodi, Darren, nad wyf am gymryd pregeth gan wleidydd Ceidwadol am fwrsariaethau nyrsio a ninnau wedi gweld dinistrio addysg nyrsys dros y ffin oherwydd bod eich Llywodraeth wedi diddymu'r cynllun bwrsariaeth nyrsio. [Torri ar draws.]
Nawr, os caf fwrw ymlaen, Lywydd. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus—y camau nesaf,' sy'n amlinellu'n fwy manwl ein cynigion ar gyfer strwythur a gweithrediad y comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol newydd ar gyfer Cymru. Mae'r dull hwn o weithredu gryn dipyn yn wahanol i'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr Lloegr. Yn Lloegr, ni cheir unrhyw grantiau cynhaliaeth, mae llai o gymorth cyffredinol ar gael, a myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf sydd â'r lefel uchaf o ddyled. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, un rhan yn unig o'n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio er mwyn priodi tegwch a rhagoriaeth yn ein system addysg yw sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ar gyfer myfyrwyr a sefydliadau addysg uwch. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn rhoi camau ar waith mewn pedair thema wahanol, gan ddarparu cymorth cyflogaeth ar gyfer yr unigolyn, pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i gefnogi staff, cau'r bwlch sgiliau a pharatoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid yn sylfaenol.
Mae cymorth unigol yn rhoi annibyniaeth i gynghorwyr a hyblygrwydd i fynd i'r afael ag anghenion, cryfderau a dyheadau unigolion i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion a Gyrfa Cymru i nodi sut y gallant annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau a fyddai o fudd iddynt ac o fudd i economi Cymru. A byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn gadw myfyrwyr a hyfforddwyd yng Nghymru i aros yng Nghymru, neu annog y rhai sy'n hyfforddi mewn mannau eraill i ddychwelyd.
Cyn dilyn cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, mae'n bwysig fod myfyrwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith a'r potensial ennill cyflog ar ddiwedd eu cwrs. Ac unwaith eto, rwy'n synnu braidd nad yw llefarydd UKIP i'w gweld yn gwybod am y data canlyniadau addysg hydredol. A dweud y gwir, Lywydd, fe anfonaf y ddolen ati fel y gall weld y data drosti ei hun.
Mae gan addysg bellach ac uwch yng Nghymru lawer iawn i fod yn falch ohono a dylem fachu ar bob cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiant pan fyddwn yn ei weld. Mae'r heriau sydd bellach yn wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru, a gweddill y DU yn wir, yn fwy sylweddol nag y buont erioed o bosibl. Credwn fod ymagwedd gydweithredol wedi'i chynllunio tuag at addysg uwch yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd a wynebwn yng Nghymru; mae'n fwy effeithiol ar gyfer adeiladu ar gryfderau sefydliadol presennol ac yn decach wrth gyflawni canlyniadau i fyfyrwyr a'r gymdeithas yng Nghymru.
Darren, gallaf gadarnhau ein bod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i CCAUC ar gyfer buddsoddi a datblygu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig ym maes TGCh, cyfrifiadureg a pheirianneg.
I gloi, Lywydd, fel Llywodraeth, mae gennym weledigaeth gynhwysfawr, gynhwysol ac arloesol ar gyfer dyfodol addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru sy'n cynnwys cryfhau strwythur, cyflwyniad ac ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach; gwella ein sylfaen ymchwil a'n gallu ymchwil; gwella arweinyddiaeth a llywodraethu ar lefel sefydliadol a chenedlaethol; trefniant newydd ar gyfer cyllid a chymorth i fyfyrwyr sy'n gyson â'n darpariaeth wedi'i chynllunio; a chreu sector addysg uwch ac addysg bellach sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr ac yn diwallu anghenion a disgwyliadau myfyrwyr ac yn gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy groesawu adolygiad Llywodraeth y DU o addysg ôl-18, a hoffwn wahodd y panel adolygu i ystyried y dull blaengar, teg a chynaliadwy a fabwysiadwyd gennym yma yng Nghymru.