Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 6 Mehefin 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, a heblaw fod tri Aelod eisiau i fi ganu'r gloch, dyma ni'n symud i'r bleidlais gyntaf.
Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adnewyddu trefol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.