Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth Prif Weithredwr cwmni awyrennau Qatar sylwadau annefnyddiol a dilornus iawn ynghylch pa un a fyddai menyw yn gallu cyflawni ei swydd. Rydych chi fel Prif Weinidog wedi nodi'n briodol eich bod chi fel Llywodraeth, a phawb yn y Siambr hon rwy'n siŵr, eisiau i Gymru fod y wlad fwyaf ystyriol o fenywod a chaniatáu llwybrau at bob cyfle yng Nghymru, ni waeth pa ryw ydych chi. Pa sylwadau wnaethoch chi i brif weithredwr cwmni awyrennau Qatar am y sylwadau hyn, o gofio eu bod nhw'n bartner strategol i chi ac, nid yn unig hynny, rydych chi wedi rhoi llawer o arian cyhoeddus ar gael i'r cwmni awyrennau hwnnw i ddatblygu'r llwybrau i mewn i Faes Awyr Caerdydd?