Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n anodd, gan fod llawer o wasanaethau a ddarperir mewn carchardai yn wasanaethau sydd wedi eu datganoli, ac nid yw cyfateb gwasanaeth sydd heb ei ddatganoli â gwasanaeth sydd wedi ei ddatganoli er mwyn darparu'r gwasanaethau hynny y peth hawddaf i'w wneud. Rydym ni wedi ei wneud, ond bydd ffyrdd haws o'i wneud. Mae hi'n dweud mynd ar ein pennau ein hunain; mae gan Ogledd Iwerddon system garchardai, felly hefyd yr Alban, ac felly hefyd, pe byddai'n dod i hynny, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey. Nid yw'n gwbl hunangynhaliol, a bydd dadl bob amser, yn fy marn i, i rai o'r carcharorion mwyaf peryglus gael eu cadw mewn un neu ddau o leoedd efallai, neu dri yn fwy na thebyg, ledled y DU, yn hytrach na ni yn ei wneud yng Nghymru. Byddai'n rhaid i ni dalu am y lleoedd carchar hynny, ond mae nifer y troseddwyr yn y categori hwnnw yn eithaf isel mewn gwirionedd. Felly, mae'n bosibl iawn efallai na fyddwn ni eisiau dewis yr opsiwn o gael carchar categori A yng Nghymru. Ond nid oes unrhyw reswm mewn egwyddor na mewn theori pam na allem ni redeg y system gyfiawnder ein hunain, o ystyried y ffaith bod endidau llai o lawer fel Gogledd Iwerddon wedi bod yn gwneud hynny ers bron i 100 mlynedd.