Gwasanaethau Iechyd yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 12 Mehefin 2018

Na, nid ydw i'n credu bod yna rywbeth yn bod gydag ysbyty newydd, mae'n rhaid i mi ddweud, mewn egwyddor. Rydw i'n credu bod hynny yn cael ei ystyried. Rydym yn gweld ysbytai yn agor ar draws Cymru. Beth sy'n hollbwysig yw bod y strwythur yn iawn yn y pen draw.

Gyda doctoriaid, nid oes yna ddim rheswm pam ddylai pobl ffonio doctoriaid yn y bore. Y doctoriaid sy'n gwneud hynny—nid y bwrdd iechyd. Mae yna sawl meddygfa ar draws Cymru sydd ddim yn mynnu eu bod nhw'n gwneud hynny. Felly, dewis y doctoriaid yw hynny; dewis y feddygfa yw hynny—[Torri ar draws.] Wel, gallaf i ddweud bod yna sawl meddygfa ar draws Cymru sydd yn rhoi cyfle i bobl wneud apwyntiadau ar-lein. A ydyn nhw'n gwneud hynny? Maen nhw'n gallu ffonio lan i wneud apwyntiad. A ydyn nhw'n gwneud hynny? Dewis doctoriaid yw hynny, ac mae hynny'n rhywbeth mae'n rhaid iddyn nhw ei esbonio i'w cleifion nhw.