Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Mehefin 2018.
Mae'n iawn i ddweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud. Mae'n hynod bwysig, fel yr wyf i wedi ei ddweud, y ceir yr ymgynghoriad llwyraf posibl. Nid wyf i wedi clywed am unrhyw gwynion ynghylch yr ymgynghoriad ei hun, er, wrth gwrs, bydd safbwyntiau cryf ynghylch beth ddylai'r canlyniad fod. Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n hynod bwysig bod y bwrdd iechyd yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle i ymgysylltu â'r cyhoedd.