Gwasanaethau Iechyd yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 12 Mehefin 2018

Mae'n hollbwysig, wrth gwrs, bod yna ymgynghoriad eang, ac mae hynny wedi digwydd lan at nawr. Mae bron 1,000—964—o questionnaires ar-lein wedi cael eu cwblhau, a dros 500 drwy'r post. Mae yna gyfarfodydd wedi cymryd lle ac maent wedi cael torf parchus ym mhob un ohonyn nhw. Beth sy'n bwysig i'w gofio, wrth gwrs, yw bod beth sydd wedi cael ei ddodi yn y ddogfen ei hunan wedi cael ei ddatblygu gyda doctoriaid, nyrsys a staff, a phobl sydd yn rhoi gofal, cynrychiolwyr cleifion hefyd a'u partneriaid nhw. So, nid rhywbeth gwleidyddol yw hwn. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi cael ei ysgrifennu gan rywun sy'n eistedd mewn swyddfa; mae hwn wedi cael ei ddatblygu gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd. So, mae'n hollbwysig fod pobl yn chwarae rhan. Nid wyf yn mynegi barn, wrth gwrs—ni fyddai'r Aelod yn erfyn i mi wneud hynny—ond mae'n hollbwysig fod pobl yn mynegi barn ynglŷn â pa fath o strwythur a ddylai fod yn y gorllewin yn y pen draw.