Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eglur na wnaeth ddefnyddio'r geiriau hynny. Yn ail, rydym ni'n gwybod ei bod yn amlwg na all fod yn wir mai dim ond carcharorion o Gymru gaiff fod mewn carchardai yng Nghymru. Mae rhai carchardai nad ydynt yn bodoli yng Nghymru y mae angen iddyn nhw ddarparu lle i garcharorion o Gymru—carchardai categori A, er enghraifft—ac nid oes gennym ni garchar i fenywod ychwaith. Felly, ni allem ni greu rhyw fath o system garchardai hunangynhaliol o dan yr amgylchiadau presennol, gan y byddai hynny'n effeithio arnom ni yn fwy na neb.