Brexit

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Pam y mae'n dirmygu etholwyr Prydain fel hyn? Mae pobl wedi penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd; mae ganddynt lais cyfartal o ran sut y mae'n mynd i ddigwydd. Nid ydyn nhw wedi eu gwahardd ar y pwynt hwnnw—'Diolch, rydych chi i gyd wedi pleidleisio, o hyn ymlaen, rydych chi'n amherthnasol.' Dyna beth y mae'n ei ddweud wrth bobl Prydain. Dydw i ddim yn dadlau o blaid cynnal ail refferendwm ar y mater. Mae'r refferendwm wedi bod. Ei blaid ef a'i gynhaliodd. Ei blaid a'i gynhaliodd, ar ôl y refferendwm yn 1997. Aethon nhw i mewn i'r etholiad cyffredinol yn 2005 gydag ymrwymiad i gynnal ail refferendwm ar ddatganoli. Felly, roedden nhw’n gollwyr gwael—collwyr gwael ar yr ochr honno. Rwy'n derbyn y canlyniad a welsom ni ddwy flynedd yn ôl, ond does bosib nad yw'n iawn i bobl Prydain benderfynu sut y bydd Brexit yn digwydd. Nid mater i elît Llywodraeth y DU yw penderfynu sut y bydd yn digwydd; mater i'r bobl ydyw. Dydw i ddim yn gweld pam y mae ofn o'r fath yn San Steffan ymysg y Blaid Geidwadol o ran caniatáu i bobl fynegi eu barn ar sut y bydd Brexit yn digwydd. Mae pobl wedi penderfynu ar y cyfeiriad; mae ganddyn nhw bob hawl i benderfynu sut y caiff y car ei yrru.