Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 12 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 12 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni yn credu y dylid ystyried datganoli carchardai, ynghyd â gweddill y system cyfiawnder troseddol. Byddai'n cymryd cryn amser, oherwydd yn amlwg bu gennym ni system integredig â Lloegr ers amser maith. Ond nid yw'n ddigon i ni ddweud, 'Byddwn ni'n cymryd rheolaeth dros garchardai' a pharhau gyda'r un polisi ag o'r blaen. Mae cyfle nawr i ni edrych ar system newydd o bolisi cosbi er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni bolisi sydd wedi'i deilwra i anghenion Cymru. Mae hynny, yn fy marn i, yn cynnwys edrych ar wahanol fathau o garchardai, eu maint, eu llwyddiant o ran diwygio carcharorion, ac mae hynny y gyd yn rhan bwysig o'r ystyriaeth o bolisi cosbi i Gymru, pe byddai carchardai yn cael eu datganoli.