Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Mehefin 2018.
Y broblem sydd gennym ni yw nad oes gennym ni Lywodraeth synhwyrol yn Llundain. Nid oes gennym ni Lywodraeth sy'n gwbl benderfynol o gael Brexit caled hyd yn oed, ac yn gwbl benderfynol o'i symud ymlaen, doed a ddelo, gyda mwyafrif yn y Senedd. Yr hyn sydd gennym ni yw llanastr—llanastr llwyr. Dychwelodd David Davis o ble bynnag y mae ef wedi bod dros y misoedd diwethaf i gwyno am Ogledd Iwerddon. Ymddiswyddiad, unwaith eto, y bore yma, Gweinidog Llywodraeth yn Llundain nad yw'n hapus gyda'r trywydd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei ddilyn. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd mewn sefyllfa o wendid difrifol, y mae'n rhaid iddi apelio am undod o fewn ei phlaid ei hun oherwydd y bradychu sy'n digwydd. Mae gennym ni ein Hysgrifennydd Tramor ein hunain sy'n meddwl y dylai Donald Trump arwain y trafodaethau ac nid arweinydd ei blaid ei hun—nid arweinydd ei blaid ei hun. Ni allech chi ddyfeisio'r fath stori. Pe bawn i'n awdur comedi, byddai pobl yn meddwl ei fod yn rhy anghredadwy. Felly, mae angen rhywbeth mwy synhwyrol arnom ni, yn sicr, yn Llundain—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—oherwydd nid yw o fudd i neb i'r anhrefn hwn barhau. Felly, rydym ni wedi gwneud y pwynt, yn rhesymegol ac yn bwyllog, bod yn rhaid i safbwyntiau pobl gael eu parchu. Mae'n rhaid parchu canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol posibl.
Ceir rhai sy'n cefnogi Brexit sy'n dweud, 'Pleidleisiodd pobl yn y refferendwm dros y Brexit caletaf posibl.' Nid dyna ddywedodd etholiadau'r llynedd wrthym ni o gwbl. Wnaeth pobl ddim pleidleisio dros Brexit caled. Cynigiwyd y cyfle iddyn nhw gan Theresa May i bleidleisio dros Brexit caled, a dywedasant 'na', a dyna wirionedd y sefyllfa ddemocrataidd. Pan fy mod i'n gweld papurau newydd yn Llundain yn dweud bod hyn yn rhyw fath o frad mawr, maen nhw'n anghofio canlyniad y llynedd a'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto y llynedd. Fy nghred i yw mai'r hyn y mae pobl ei eisiau yw i ganlyniad y refferendwm gael ei barchu ac i Brexit ddigwydd, ond maen nhw eisiau iddo gael ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol a rhesymegol posibl ac nid mewn modd sy'n niweidio'r DU.
Mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r pethau sy'n fy mhoeni i yw nad wyf i'n credu bod y porthladdoedd yn barod mewn unrhyw ffordd ar gyfer Brexit caled ym mis Mawrth. Byddwn ni'n gweld oediadau yn y porthladdoedd wedyn. Byddwn ni'n gweld lorïau, nid yn unig yn Dover, ond o bosibl ym mhorthladdoedd Cymru hefyd, mewn tagfa i lawr y ffordd, heb unlle i'w parcio, oediadau, nwyddau'n difetha—nwyddau darfodus—a beth fydd Llywodraeth y DU ei wneud wedyn? Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd. Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd—dyna beth fyddan nhw'n ei wneud. Byddan nhw'n dweud, 'Wel, eich bai chi yw hyn; ni wnaethoch chi fuddsoddi'n briodol. Nid ein bai ni yw ef; bai'r porthladdoedd yw ef.' Neu byddant yn dod atom ni ac yn dweud, 'Eich problem chi yw'r oediadau yng Nghaergybi a Doc Penfro ac Abergwaun gan mai Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r porthladdoedd.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da. Os oes cynllunio i fod ar gyfer Brexit caled, sy'n digwydd—ac, mewn rhai ffyrdd, mae'n rhaid i chi ddeall pam mae hynny'n digwydd; wyddoch chi, paratoi ar gyfer y gwaethaf—yna mae'n rhaid bod arian ar gael i helpu ein porthladdoedd i ymdrin â'r canlyniadau a'r oediadau anochel a fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Nid yw hynny wedi digwydd. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni'n ei gael yw dim byd yn digwydd, a'r potensial, rwy'n credu, i ddweud wrth borthladdoedd, 'Eich bai chi yw unrhyw oediadau.'