Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnes i yrru ddoe o fy etholaeth, o Ynys Môn, lawr i Gaerdydd mewn car o'r unfed ganrif ar hugain, sef car trydan, Renault ZOE. Yn anffodus, mae isadeiledd gwefru trydan Cymru yn dod o'r ganrif ddiwethaf, ddywedwn i. Methais i â gyrru'n syth i lawr a gorfod dod drwy Loegr er mwyn gallu gwefru. Nid ydy hynny, yn amlwg, yn dderbyniol erbyn hyn. Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i gael £2 miliwn allan o'r Llywodraeth drwy'r gyllideb i weithio ar gynllun i ehangu pwyntiau gwefru. A gaf i ddiweddariad gan y Llywodraeth ar sut mae hwnnw'n cael ei wario a sut mae am olygu ein bod ni, yn fuan iawn, iawn, am gael pwyntiau gwefru yn rhywle rhwng Ynys Môn a Chaerdydd?