Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 12 Mehefin 2018.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Glan-yr-afon yng Nghasnewydd berfformiad cyntaf y byd o waith Opera Cenedlaethol Cymru Rhondda Rips it Up!, opera yn adrodd hanes bywyd y swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur o Gasnewydd, Margaret Mackworth, neu Arglwyddes Rhondda. Mae'n dal i fod ar daith ar hyn o bryd i'r rheiny ohonoch nad ydych wedi'i gweld. Ond perfformiodd disgyblion o Ysgol John Frost yn fy etholaeth i waith cydweithredol arbennig, Deeds not Words, yn syth cyn y perfformiad gwych, a rhoddodd y prosiect gyfle i'r myfyrwyr weithio gyda pherfformwyr o'r radd flaenaf o Opera Cenedlaethol Cymru ac, ynghyd â gweddill y gynulleidfa, cefais fy ngwefreiddio gan eu perfformiad. Yn bwysicaf oll, mae'r prosiect wedi dangos sut y mae rhoi llais i bobl ifanc trwy berfformio yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu lles meddwl. Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad ar fudd y celfyddydau creadigol ar les meddwl pobl ifanc?
A fy ail gais i yw: a gawn ni ddadl neu ddatganiad ar ferched a menywod mewn chwaraeon? Heno, mae Cymru yn chwarae yn erbyn Rwsia yn Stadiwm Casnewydd ym Mharc Spytty ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA Menywod ac, yn dilyn twf pêl-droed merched, byddai'n dda clywed sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl-droed.