Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 13 Mehefin 2018.
Mae Siân wedi dewis canolbwyntio ar un elfen bwysig o'r agenda yma, elfen sy'n sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Cynulliad Cenedlaethol, ac yn sgil hynny, mae wedi codi'r cwestiwn a allai caniatáu i Aelodau Cynulliad rannu swydd arwain at greu Cynulliad sy'n fwy cydradd o ran rhywedd. Bydd yr Aelod, fel mae hi wedi disgrifio, yn ymwybodol bod hwn yn fater a godwyd gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn ei adroddiad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'. Mae adroddiad y panel yn cyfeirio at y ffaith mai:
'Un o'r egwyddorion sy'n rhan o ethos y Cynulliad yw y dylai gweithio mewn modd sy'n ystyriol o deuluoedd fod yn rhan annatod o'i ddiwylliant a'i weithdrefnau, cyn belled â phosibl.'
O'r cychwyn cyntaf, rydym wedi llunio a dilyn amserlen fusnes a gwaith sy'n ymdrechu i adlewyrchu'r egwyddor yma. Fodd bynnag, fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, yn rhannol o ganlyniad i faterion capasiti a rhagor o gyfrifoldebau, nad ydym bob amser wedi cadw at ein gair ar hynny. Y gwir yw, fel mae adroddiad y panel arbenigol yn ei awgrymu, ychydig iawn o hyblygrwydd sydd gan Aelodau yn y lle yma o ran eu diwrnodau gwaith, ac mae hyn yn cael ei ategu, yn fy marn i, gan y gofynion a'r cyfrifoldebau cynyddol ar sefydliad nad oes ganddo ddigon o Aelodau.
Mae'r effaith a gaiff hyn wedi'i nodi mewn nifer o adroddiadau ac astudiaethau, er enghraifft y gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor yn 2014 i werthuso'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll i'w hethol i'r Cynulliad. Roedd yr astudiaeth yma yn ystyried yr effaith ar unigolion a'u teuluoedd o gael eu hethol i'r sefydliad yma a sut y gallai'r ffactorau hyn atal pobl eraill a hoffai sefyll i gael eu hethol. Mae'r atebion posibl yn niferus, wrth gwrs, ac yn esgor ar wahanol gymhlethdodau, ond mae'n werth ystyried pob un os ydym am sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol yn ein Senedd genedlaethol.
Yn rhannol â hyn mewn golwg, fe wnaeth y panel arbenigol archwilio'r potensial i ymgeiswyr gael eu dewis a sefyll i'w hethol ar sail trefniant rhannu swydd. Cyfeiriodd y panel at ddadleuon a wnaed mewn pamffled gan Gymdeithas Fawcett, a oedd yn dweud y byddai rhannu swydd yn gam cymesur tuag at ei gwneud yn bosib i fwy o bobl ystyried sefyll i'w hethol ac i wneud cynrychiolaeth seneddol yn fwy amrywiol. Yn ogystal, daethpwyd i'r casgliad y gallai rhannu swydd fod yn arbennig o fuddiol i ymgeiswyr hŷn, pobl ag anableddau, neu bobl â chyfrifoldebau gofalu.
Argymhelliad y panel, felly, oedd y dylid newid gweithdrefnau a chyfraith etholiadol i alluogi ymgeiswyr i sefyll i'w hethol ar sail trefniadau tryloyw rhannu swydd, ac fe osododd y panel rai egwyddorion cyffredinol eang iawn y gellid eu dilyn i gyflawni hyn. O ganlyniad, penderfynodd Comisiwn y Cynulliad fod yr argymhelliad yn un diddorol ac y byddai'n werth ei gynnwys fel pwnc yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw rhwng Chwefror ac Ebrill eleni, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi'r prif ymatebion cychwynnol cyn toriad yr haf.
Mae'r gwaith hwn yn gofyn am ddadansoddiad manwl er mwyn sicrhau ei fod yn gallu llywio penderfyniad yr Aelodau. Gallaf gadarnhau yma heddiw, fodd bynnag, fod y Comisiwn wedi cael dros 3,200 o ymatebion i'r broses ymgynghori. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod hynny'n destun calondid, bod yna ymateb sylweddol wedi digwydd i'r ymgynghoriad. Rydw i'n edrych ymlaen, felly, i ddarllen rhai o'r sylwadau i'r ymgynghoriad a chlywed sylwadau'r Aelodau ar y maes polisi cymharol gymhleth hwn. Mae'n fater sy'n sicr yn cynnig cyfleoedd, ond nid oes gennyf amheuaeth hefyd ei fod yn esgor ar nifer o heriau ymarferol, gwleidyddol a chyfreithiol.
Un rheswm dros hyn, fel y nodwyd yn adroddiad y panel, yw'r penderfyniad ar achos yn yr Uchel Lys yn 2015 na chaniateir rhannu swydd ar gyfer etholiadau San Steffan yn ôl y gyfraith etholiadol. Fel y mae, byddai hynny hefyd yn wir ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yma. Yn yr achos penodol hynny, fe wnaeth dwy fenyw gais i swyddog canlyniadau etholaeth Basingstoke i sefyll ar y cyd ar gyfer etholiad San Steffan ar ran y Blaid Werdd, fel y cyfeiriodd Siân Gwenllian ynghynt. Fe wrthodwyd y cais yma gan y swyddog canlyniadau ac fe heriwyd y penderfyniad yn aflwyddiannus yn yr Uchel Lys yn Llundain.
Mae'r cyngor cyfreithiol cychwynnol rwyf i wedi'i gael hefyd yn bwrw amheuaeth ynghylch cymhwysedd y Cynulliad hwn i wneud yr holl newidiadau sydd eu hangen i weithredu polisi o'r fath, yn enwedig pe byddai'r Aelodau yn dymuno i Aelod Cynulliad sy'n rhannu swydd gael bod yn Weinidog neu Ysgrifennydd Cabinet.
O safbwynt mwy ymarferol, mae'n wir o hyd nad oes cynsail yn unrhyw le arall o Aelodau etholedig yn rhannu swydd. Mae yna enghreifftiau oddi fewn i Senedd Ewrop nad ydynt yn annhebyg i drefniant o'r math yma, ond maent yn drefniadau o fewn pleidiau gwleidyddol yn hytrach na threfn etholiadol statudol. Rydw i'n ymwybodol, er enghraifft, o Aelodau Senedd Ewrop yn ildio'u sedd yn ystod y tymor a hynny er mwyn galluogi'r person nesaf ar y rhestr i ymgymryd â'r rôl am weddill y tymor. Yn etholiadau Ewrop yn 2014, enillodd cynghrair Dewis y Bobl o Galicia un sedd. Penderfynodd y gynghrair y dylid caniatáu i un Aelod wasanaethu am ran o'r tymor ac Aelod arall wasanaethu am ran arall y tymor—Ana Miranda Paz—ac mae hi yn awr newydd gael ei hethol am ail gyfnod y tymor seneddol Ewropeaidd wrth i'r Aelod arall sefyll lawr er mwyn caniatáu iddi hi gael ei hethol. Job share o fath gwahanol, wrth gwrs, ond job share, serch hynny, mewn rhyw ffordd.
Fel y soniais, sefydlwyd y drefn yma oddi fewn i gynghrair neu blaid wleidyddol yn hytrach na thrwy osod deddfwriaeth ac mae hynny dipyn yn wahanol i sefyllfa lle mae dwy neu ddau wleidydd yn cael eu hethol i gyflawni un rôl. Yn sicr, er mwyn i hyn weithio, byddai angen i etholwyr gael sicrwydd mewn perthynas ag ymarferoldeb rhannu swydd, yn enwedig o ran pwy sy'n ysgwyddo'r atebolrwydd a chyfrifoldeb, ac o ran costau.
Mae cwestiynau i'w gofyn hefyd ynghylch a fyddai creu cyfraith i ganiatáu rhannu swydd o anghenraid yn arwain at bleidiau gwleidyddol yn mabwysiadu ymgeiswyr sy'n rhannu swydd. Mater o wleidyddiaeth yw hynny; nid mater o gyfraith.
Nid oes dim o'r pethau hyn yn esgus dros beidio gweithredu, wrth gwrs, nac ychwaith yn rheswm dros ddiystyru'r syniad yn llwyr. Mae'n destun balchder gen i fod y Cynulliad yma yn un sydd yn arloesol ac yn feiddgar, ond byddai angen gwneud gwaith sylweddol cyn y gallai Comisiwn y Cynulliad, yr Aelodau a'r etholwyr fod yn hyderus y gallai polisi o'r fath gael ei weithredu'n effeithiol. Nawr, wrth gwrs, mae'r pwerau ar etholiadau'r Cynulliad yma'n gorwedd yn y Cynulliad yma, ac rŷm ni'n gallu cael trafodaeth o'r math arloesol, diddorol yma lle, mewn Cynulliadau cynt, fe fyddem ni wedi trafod rhywbeth na fyddai'n bosib i ni ei gyflawni fel Cynulliad.
Felly, rydw i'n ddiolchgar am y drafodaeth sydd yn cychwyn heddiw. Rwy'n credu ei fod yn gosod cynsail clir i'r Cynulliad yma i fod yn feiddgar yn sut rŷm ni'n dyfeisio ein systemau etholiadol i'r dyfodol.