Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu a chynnig cynlluniau amaeth-amgylcheddol llwyddiannus drwy'r rhaglen datblygu gwledig. Mae'r gyllideb wedi'i hymrwymo'n llwyr ac mae tair rownd arall o grantiau bach Glastir wedi'u cynllunio. Bydd cwmpas y cymorth amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol yn targedu nwyddau cyhoeddus a byddwn yn ymgynghori yn ei gylch dros y misoedd nesaf.