Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Fel y dywedoch, mae yna gyfarfod wedi'i drefnu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, ond yr hyn sy'n bwysig iawn yn fy marn i yw sicrhau ein bod yn monitro ac yn gwerthuso pob un o'n cynlluniau mewn ffordd sy'n dangos y canlyniadau. Ac yn amlwg, os oes pryderon mewn perthynas â'r cynllun hwn yn benodol, byddem yn hapus iawn i edrych arno.