Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Mehefin 2018.
Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i ganmol gwaith y WWF, sydd wedi edrych ar y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth a byddai'n hoffi gweld mwy o weithredu. Maent wedi cyflwyno rhai syniadau penodol iawn, gan gynnwys lleihau'r defnydd o adnoddau drwy gynyddu digonolrwydd adnoddau busnes ac adnoddau gan gynhyrchwyr cynaliadwy ardystiedig. Yn ogystal, mae WWF yn awgrymu y gallem wella bioamrywiaeth ac adfer gweithrediad ecosystemau drwy asesu'r effaith ar adnoddau naturiol a buddsoddi'n weithredol mewn gwaith adfer. Ond onid yw'n wir, hyd yma, nad yw Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sydd, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno, yn ddeddfwriaeth bwysig, wedi cael ei defnyddio'n llawn ac yn ymarferol eto? Mae gwir angen i chi gynyddu eich uchelgais a sicrhau eu bod yn deall hyn yn llawn, er enghraifft, yn adran eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a mynd ati o ddifrif i weithio, ac mae angen i chi gydgysylltu hyn gyda'r chwaraewyr allweddol yn y sector dinesig, fel WWF.