Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:53, 13 Mehefin 2018

A gaf i droi nawr at y cynllun ymsefydlu i ffermwyr ifanc? Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn ffrwyth cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae yna £6 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y cynllun hwn. Mae ar agor ar hyn o bryd, ac rydw i'n gwybod bod yna nifer fawr o bobl wedi ymgeisio a nifer fawr o bobl yn trafod y cynllun. Yn gyffredinol iawn, mae croeso mawr wedi bod i'r cynllun. Mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi fel adwaith wrth i'r cynllun gael ei fabwysiadu, a hoffwn i jest grybwyll y rhain i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf oll, mae pobl yn holi a oes modd cael mwy o, efallai, sgwrs o bryd i'w gilydd ac ymateb gan y Llywodraeth ynglŷn â rhoi cais i mewn ac ym mha ffordd mae cais yn datblygu ac ati, i ddeall a fydd y cais yn addas yn y ffordd yna. Mae pobl hefyd yn codi yr awydd i wneud yn siŵr bod y cynllun yn ffocysu'n briodol ar ffermwyr ifanc, rhai ohonyn nhw, efallai, blwyddyn neu ddwy i mewn i fusnes ond yn gallu manteisio ar y cynllun yma i dyfu'r busnes yma, a thrwy hynny, wrth gwrs, fel rydym ni wedi trafod yn y Cynulliad, dyfu rhyw garfan o bobl a fydd yn arwain y diwydiant wrth i ni wynebu rhai o'r heriadau sydd eisoes wedi cael eu trafod yma ar hyn o bryd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni a ydy hi'n fodlon jest cadw llygad ar y cynllun wrth iddo fe nesáu at y dyddiad cau a gwneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd yn y cynllun i gwrdd â'r anghenion a'r amcanion sydd wedi'u cytuno?