Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Disgwylir y bydd y codau lles wedi'u diweddaru ar gyfer cŵn a cheffylau yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yr haf hwn. Y codau ar gyfer ieir dodwy, brwyliaid, moch, cathod a chwningod fydd y rhai nesaf i gael eu diweddaru. Byddaf yn darparu diweddariad ar faterion lles anifeiliaid eraill yn fy natganiad llafar ddydd Mawrth nesaf.