Codau Ymarfer Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:11, 13 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r cod ymarfer presennol ar fagu adar at ddibenion saethu yn wyth mlwydd oed, ac nid yw'n cynnwys unrhyw ofynion o ran isafswm gofod ar gyfer adar hela, ac nid yw wedi cael ei gefnogi gan unrhyw arolygiadau statudol annibynnol i wirio cydymffurfiaeth, yn wahanol i'r codau lles ar gyfer adar eraill megis ieir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pryd y bydd camau'n cael eu cymryd i fonitro'n annibynnol y broses o orfodi'r cod er mwyn sicrhau lles yr adar hyn?