Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 13 Mehefin 2018.
Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, a gaf fi estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Martin?
Weinidog, i ddangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio ar draws y Llywodraeth, mae'n hanfodol fod y nodau cydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu yn y contract drwy alw ar fusnesau i ddangos sut y byddant yn cyfrannu tuag at, er enghraifft, y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Pe bai'n cael ei roi ar waith, gallai contract o'r fath ei gwneud yn ofynnol i fusnesau osod targedau clir a mesuradwy sy'n gwella cydnerthedd ecosystemau o fewn y cyfnod y maent yn cael cymorth gan y Llywodraeth neu'n cyflawni contract Llywodraeth. Felly, pa fesurau penodol sydd gan y Gweinidog mewn golwg o ran y ffyrdd y gall y contract fynnu bod busnesau'n rhoi camau ar waith i gyfrannu tuag at wytnwch ecosystemau ac adfer natur?