Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Wel, roeddwn innau hefyd yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud. Dywedwyd wrthym y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud ddydd Llun diwethaf mwy na thebyg, yna dywedwyd wrthym mai heddiw y caiff ei wneud. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf, bydd yn 10 diwrnod arall mwy na thebyg, felly nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi fod yn ystyriol iawn eto wrth drafod prosiect penodol oherwydd fy rôl mewn perthynas â chynllunio, a thrwyddedu morol wrth gwrs. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Greg Clark yr wythnos diwethaf. Hyd yma, nid yw wedi cael ymateb. Felly, credaf fod y cynnig ariannu yn cael ei ystyried yn gynnig difrifol, a gwn fod Prif Weinidog Cymru wedi ei drafod yn bersonol gyda Phrif Weinidog y DU. Nid wyf yn siŵr a yw wedi'i drafod yn bersonol gyda Greg Clark, ond yn sicr mae wedi ysgrifennu ato, ac rydym yn aros am ymateb.