Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich polisïau ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem barhaus o dwbercwlosis buchol yn fy ardal i ac yn wir, ledled Cymru. Mae ffermwyr sir Fynwy yn parhau i fod yn bryderus iawn am gyfraddau'r haint yn yr hyn sy'n ardal â phroblem TB ac sydd wedi bod ers peth amser bellach. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi mai un peth yw ymdrin â chyfraddau'r haint ymhlith da byw—mae'n rhaid gwneud hynny—ond peth arall yw ymdrin ag ef o fewn y gronfa ehangach o anifeiliaid gwyllt ac yn yr amgylchedd ehangach hefyd. Felly, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â beth yn union sy'n digwydd mewn ardaloedd problemus fel fy ardal i er mwyn gwneud yn siŵr fod y broblem hon naill ai'n cael ei datrys, neu o leiaf, fod ffermwyr yn cael sicrwydd ein bod ar y trywydd iawn i'w datrys yn y dyfodol agos.